Neidio i'r prif gynnwy

Ein hymchwil

Set of dental tools

Mae gan yr adran ddeintyddol i ôl-raddedigion brofiad hir o ymwneud ag ymchwil a gwerthuso, ar y cyd ag Uned Ymchwil a Gwerthuso Caerdydd mewn Addysg Feddygol a Deintyddol (CUREMeDE). Mae’r adran yn monitro’r modd y darperir cyrsiau’n rheolaidd ac yn chwilio am gyfleoedd arloesol i sicrhau eu bod yn parhau i ddiwallu anghenion newidiol gweithlu deintyddol Cymru. Mae’r adran hon yn cynnwys enghreifftiau o’n gweithgarwch parhaus a diweddar.

Sicrhau’r cyfuniad o sgiliau gorau posibl ym maes deintyddiaeth: therapyddion deintyddol, mynediad uniongyrchol a’r dyfodol

Mae’r prosiect cydweithredol aml-sefydliad, sy’n cynnwys aelodau o Adran Ddeintyddol i Raddedigion, Ysgol Ddeintyddiaeth Prifysgol Caerdydd, CUtMeDE a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, wedi cwblhau prosiect ymchwil dwy flynedd, wedi’i ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ar y cyfuniad o sgiliau ym maes deintyddiaeth. Ein nod oedd deall yn well sut i wneud y defnydd gorau o’r tîm deintyddol ac ymgymryd â gofal iechyd darbodus o fewn rheoliadau a chanllawiau cyfredol. Roedd yr astudiaeth yn edrych ar beth sy’n gweithio, pam ac ym mha amgylchiadau drwy gyfres o astudiaethau achos gyda deintyddfeydd cyffredinol yn ne a gorllewin Cymru ac adolygiad strwythuredig o’r cyhoeddiadau ymchwil. Gan ddefnyddio’r canfyddiadau hyn, aethom ati i ddatblygu cyrsiau hyfforddi ymarferol a phecyn hunan-werthuso (Pecyn Hunan Arfarnu Optimeiddio Sgiliau (SOSET))) i helpu deintyddfeydd i ganfod pa mor barod ydynt ar gyfer newidiadau i’r cyfuniad o sgiliau a sefydlu cynlluniau gweithredu. Mae’r canlyniadau wedi cael eu cyflwyno’n rhyngwladol (IADR, ADEE) ac mae cyhoeddiadau yn y wasg ar hyn o bryd.

Gweld Poster Anghenion Hyfforddi’r Therapyddion Deintyddol a’r Hylenwyr ar gyfer Mynediad Uniongyrchol

Gweler y prosiect ymchwil ar wefan Canolfan Prime Cymru

Gwerthuso rhaglenni cydweithredol amlbroffesiynol newydd

Rydym wedi datblygu cynllun newydd sy’n dod ag ymarferwyr o faes deintyddiaeth, meddygon teulu a fferyllwyr at ei gilydd, gan ddarparu digwyddiadau sy’n rhoi sylw i bynciau sy’n berthnasol i’r tri grŵp. Rydym yn cynnal gwerthusiadau i gefnogi’r rhaglen hon drwy adrodd ar gymhellion y gwahanol grwpiau proffesiynol a nodi’r cynnwys addysgol y mae pob grŵp am ei weld yn y dyfodol yn y digwyddiadau. Cyflwynwyd gwerthusiad o’r ddwy sesiwn gyntaf yn y Gynhadledd Datblygu Rhagoriaeth mewn Addysg Feddygol (DEMEC) ac yn Uwchgynhadledd Aeaf y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yn 2017.

Poster 

Presgripsiynau gwrthficrobaidd

Mewn cydweithrediad â 1000 Lives Plus a'r Ysgol Ddeintyddiaeth, rydym wedi datblygu awdit presgripsiynau gwrthficrobaidd ar gyfer deintyddion.

Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn fygythiad difrifol i iechyd y cyhoedd. Nod y rhaglen waith hon yw mynd i’r afael â phresgripsiynau amhriodol neu anghywir mewn deintyddfeydd cyffredinol yng Nghymru. Dyma ail gylch yr awdit cenedlaethol. Cyhoeddwyd canlyniadau’r cylch cyntaf yn y British Dental Journal:

Cope A, Barnes E, Howells EP, Rockey AM, Karki AJ, Wilson MJ, Lewis MAO and Cowpe J. (2016) Antimicrobial prescribing by dentists in Wales, UK: findings of the first cycle of a clinical audit. British Dental Journal 221 (1), 25-30 doi:10.1038/sj.bdj.2016.496

Deintyddiaeth matrics aeddfedrwydd

Mae Deintyddiaeth Matrics Aeddfedrwydd yn adnodd datblygu ymarfer ar gyfer y tîm deintyddol cyfan sy’n helpu timau deintyddol i ddarparu gofal o ansawdd uchel i gleifion.

Cafodd y Matrics Aeddfedrwydd ei ddylunio’n wreiddiol fel adnodd datblygu ymarfer drwy hunanwerthuso ar gyfer timau Gofal Sylfaenol a Fferylliaeth. Dyluniwyd y matrics fel ffordd o fesur ymarfer cyfredol, gan alluogi’r tîm ymarfer i nodi meysydd allweddol i’w gwella, blaenoriaethu unrhyw ymyriadau a chefnogi gwelliannau mewn ansawdd. Cyhoeddwyd papur yn amlinellu’r camau a gymerwyd i addasu’r matrics i’w ddefnyddio gyda thimau deintyddol:

Barnes E, Howells E, Marshall K, Cowpe J, Bullock A and Thomas H. (2012) Development of the Maturity Matrix Dentistry (MMD): A primary care dental team development tool, British Dental Journal, 212(12) 583-7 doi: 10.1038/sj.bdj.2012.523

Gwerthusiadau eraill

Barnes E, Bullock AD, Moons K, Sandom F, a Cowpe JG. (2015) Dental Therapists’ and Hygienists’ Training Needs for Direct Access. Cyflwynwyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Ymchwil Deintyddol, Boston, UDA. Enillydd y wobr yn y categori Ymchwil Addysgol. (Cael y poster)

Barnes E, Moons K, Bullock A, Hannington D, Cowpe J and Rockey A. (2014) The Introduction to Practice (ItP) scheme for therapists in Wales: an evaluation of the first three years. Dental Health: A Journal of the British Society of Dental Hygiene & Therapy, 53 (1), pp. 32-36.

Cowpe JG, Barnes E and Bullock AD. (2013) Skill-mix in general dental practice teams in Wales, Vital. 10(2):38-43

Moons K, Evans S, Lightowlers M, Bullock A. & Barnes E. (2012) Dental nurses' perception of CPD in Wales, Vital, 9, 19-23.