Neidio i'r prif gynnwy

Adfyfyrio

Lady mirroring herself

Mae’r cynllun ymarfer deintyddol cyffredinol (GDC) ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) yn nodi’n glir bod adfyfyrio yn allweddol i bob cofrestrai feddwl am ganlyniadau eu gweithgarwch DPP. Proses unigol yw adfyfyrio, a chi sy’n penderfynu sut y byddwch chi’n gwneud hynny, ond rhaid i chi sicrhau eich bod yn gwneud hynny. Bwriad y dolenni a’r adnoddau ar y dudalen hon yw rhoi cymorth ac arweiniad i chi ddod yn rhywun sy’n gallu adfyfyrio yn effeithiol. Bydd hyn yn ei dro yn gwella eich perfformiad fel gweithiwr iechyd proffesiynol sy’n darparu gofal i gleifion wrth i chi geisio gwella eich ymarfer yn barhaus. Mae pa mor effeithiol ydych chi fel rhywun sy’n gallu adfyfyrio yn dibynnu ar ba mor rhagweithiol a pharod ydych chi i adfyfyrio o ddifri a gwneud hynny’n ystyrlon.

Mae’r GDC yn gosod disgwyliadau o ran adfyfyrio yn y canllawiau y mae’n eu darparu ar gyfer DPP Uwch – ac yn rhoi enghreifftiau o sut y gallai hyn weithio.

Mae’r CDC wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd ar fanteision dod yn ymarferydd adfyfyrgar sy’n nodi disgwyliadau cyffredin i weithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal fod yn ymarferwyr adfyfyriol a chymryd rhan ystyrlon mewn adfyfyrio.

Erfyn defnyddiol arall a allai eich helpu i ystyried y ffordd orau o ddysgu a’r ffyrdd y gallwch chi ddatblygu sgiliau i wella eich dysgu yw offeryn Arddulliau Dysgu fel un Honey a Mumford – mae enghraifft ar gael yma.

Mae fersiynau ar-lein o’r adnodd hwn a allai fod yr un mor ddefnyddiol i chi.

Cyhoeddodd y CDC flog defnyddiol ar adfyfyrio.

Cyflwynodd Katherine Mills, Addysgwr Deintyddol AaGIC weminar ar adfyfyrio.