Neidio i'r prif gynnwy

Beth rydym yn ei wneud

Screen showing dental prosthesis

Ariennir yr adran ddeintyddol i ôl-raddedigion gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod safon uchel o addysg a hyfforddiant yn cael ei darparu i ddeintyddion a chanolfannau deintyddol cymunedol ledled y wlad.

Ein nod yw hyrwyddo Cymru fel y lleoliad delfrydol ar gyfer hyfforddiant deintyddol sylfaenol, hyfforddiant deintyddol craidd, hyfforddiant deintyddol arbenigol a hyfforddiant sylfaenol i therapyddion deintyddol. Yn y pen draw, rydym yn gweithio i ddarparu gofal iechyd y geg o safon uchel sy’n canolbwyntio ar y claf ac sy’n dilyn cynlluniau gofal iechyd darbodus Llywodraeth Cymru.

Mae rhaglen fuddsoddi barhaus yn darparu rhai o’r cyfleusterau efelychu sgiliau clinigol deintyddol mwyaf modern, yn y DU, mewn canolfannau ôl-radd ledled Cymru. Mae’r cyfleusterau hyn yn darparu’r conglfaen ar gyfer hyfforddiant sgiliau deintyddol i ddeintyddion dan hyfforddiant ac ar gyfer y gweithlu deintyddol sefydledig yng Nghymru, sy’n cynnwys deintyddion a gweithwyr proffesiynol ym maes deintyddiaeth, sy’n darparu gofal iechyd y geg yn yr amgylchedd gofal sylfaenol. Mae amrywiaeth o hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) hefyd yn cael ei drefnu a’i hwyluso gan yr adran ddeintyddol i ôl-raddedigion mewn deintyddfeydd, lle gellir hyfforddi’r tîm cyfan ar yr un pryd.

Mae Cynllun Cenedlaethol Iechyd y Geg Cymru yn nodi’r camau sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac adran ddeintyddol i ôl-raddedigion Deoniaeth Cymru i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu deintyddiaeth y GIG wrth wella iechyd y geg yng Nghymru. Mae’r adran ddeintyddol i ôl-raddedigion wedi gweithio’n agos gyda gwahanol randdeiliaid i fynd i’r afael â chamau gweithredu’r adran. Rydym wedi cynhyrchu adroddiad sy’n dangos y cyfraniad y mae’r adran ddeintyddol ôl-raddedig wedi’i wneud at gyflwyno’r NOHP.