Mae adran ddeintyddol i ôl-raddedigion Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi cyflwyno system i gefnogi unigolion sy’n bwriadu ymgymryd â darparu gofal deintyddol sylfaenol neu a gynhwysir ar y rhestr o ymarferwyr yng Nghymru neu a fydd yn derbyn cymorth neu argymhellion ynghylch adfer.
Bydd yr addysgwr deintyddol (arweinydd cefnogaeth broffesiynol (DPS)) yn gweithio gyda’r unigolyn ac yn adolygu lefel y gefnogaeth sydd ei hangen i gyflawni’r pecyn addysgol.
Dyma’r ddwy lefel o gymorth sydd ar gael:
Ar ôl derbyn y rhaglen, bydd yr addysgwr deintyddol (arweinydd DPS) yn pennu tiwtor cynllun datblygu personol (CDP) i weithio gyda’r unigolyn.
Bydd pawb a dderbynnir i’r uned gefnogi yn cael cymorth i ddatblygu eu CDP, adeiladu portffolio, cymorth gydag archwiliadau, hyfforddiant gwerthuso a byddant yn cael eu gwahodd i ddiwrnod astudio rheolau a rheoliadau’r GIG yn ogystal â chael eu cyfeirio at gyrsiau adran dau perthnasol fel y nodir gan eich CDP.
Gweler y ffurflen gais DPSU sydd ar gael i’w llwytho i lawr yn yr adran berthnasol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Gweinyddwr Cymorth Deintyddol Proffesiynol