Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsys Anableddau Dysgu

Beth yw Nyrs Anableddau Dysgu?

Mae Nyrs Anableddau Dysgu yn cefnogi llesiant a chynhwysiant cymdeithasol pobl sydd ag anableddau dysgu, fel y gallant gyflawni eu potensial llawn, byw bywyd cyflawn a chael eu gwerthfawrogi yn y gymdeithas.

Mae Nyrsys Anableddau Dysgu yn gofalu am bobl o bob oedran sydd ag anableddau dysgu, ac maent yn gweithio mewn partneriaeth ag unigolion, cefnogwyr, teuluoedd a gofalwyr i ddarparu gofal iechyd arbenigol.

Ydy Nyrsio Anableddau Dysgu yn yrfa addas i mi?

Mae sawl rheswm dros ystyried gyrfa fel Nyrs Anableddau Dysgu. Mae’n rhoi cyfle i chi wneud gwahaniaeth, mae’n cynnig rhagor o hyblygrwydd ac mae’n yrfa sy’n cynnig cyfleoedd cyflogaeth gwych.

Ydych chi’n berson:

  • Gofalgar
  • Caredig
  • Egwyddorol
  • Da gyda phobl o bob oedran a chefndir
  • ac yn berson sydd â’r gallu i weithio’n rhan o dîm amlddisgyblaethol ynghyd â’r gallu fod yn fentrus?

Beth mae Nyrsys Anableddau Dysgu yn ei wneud?

Bydd eich gwaith fel Nyrs Anableddau Dysgu yn cynnwys y canlynol yn bennaf:

  • Gwella neu gynnal iechyd meddwl ac iechyd corfforol pobl
  • Goresgyn rhwystrau i alluogi pobl i fyw’n annibynnol
  • Cefnogi pobl i fyw bywyd boddhaus
  • Eiriolaeth

Mae Nyrsys Anableddau Dysgu yn hyrwyddo annibyniaeth, hawliau, dewisiadau a chynhwysiant cymdeithasol unigolion yn y system gofal iechyd.

Ble mae Nyrsys Anableddau Dysgu yn gweithio?

Mae Nyrsys Anableddau Dysgu yn gweithio:

  • yng nghartrefi cleifion
  • mewn cymunedau
  • mewn ysgolion
  • mewn ysbytai
  • mewn prifysgolion (addysgu)
  • ...a mewn unrhyw fan lle mae pobl sydd ag anableddau dysgu

Pa rolau mae Nyrsys Anableddau Dysgu yn eu gwneud?

Mae Nyrsys Anableddau Dysgu yn gweithio yn y rolau canlynol:

  • Nyrsys Anableddau Dysgu yn y Gymuned
  • Arbenigwyr Ymddygiad
  • Nyrsys Epilepsi Arbenigol
  • Nyrsys Anableddau Dysgu ar gyfer Cleifion Mewnol
  • Nyrsys Cyswllt Ysbytai ar gyfer Anableddau Dysgu
  • Nyrsys Ddiogelu Arbenigol
  • Nyrs Datblygu Ymarfer Anableddau Dysgu
  • Swyddi Darlithio ar gyfer Ymarferwyr Anableddau Dysgu
  • Rolau Ymarferwyr Nyrsio Uwch
  • Pennaeth Nyrsio Anableddau Dysgu
  • Ymgynghorwyr Nyrsio Anableddau Dysgu
  • Cyfarwyddwr Nyrsio’r Uned Anableddau Dysgu
  • Rolau rheoli gwasanaethau

Faint mae Nyrsys Anableddau Dysgu yn ei ennill?

Yn y GIG, mae Nyrsys Anableddau Dysgu cofrestredig ar lefel mynediad yn dechrau ar Fand 5; ewch i’n tudalen Cyflog a Buddiannau am ragor o wybodaeth.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i Nyrsys Anableddau Dysgu gamu ymlaen yn eu gyrfa?

Unwaith ichi gofrestru ac ennill ychydig o brofiad clinigol, mae nifer o ddewisiadau cyflogaeth ar gael, gan gynnwys:

  • Arweinydd Clinigol
  • Darlithydd Nyrsio
  • Rheolwr Uned/Ward Cleifion Mewnol
  • Arweinydd Tîm Anableddau Dysgu yn y Gymuned
  • Ymgynghorydd Nyrsio
  • Nyrs Datblygu Gwasanaeth / Ymchwil
  • Uwch-Ymarferydd Nyrsio
  • Uwch-Reolwr Nyrsio

Sut ydw i’n dod yn Nyrs Anableddau Dysgu?

Oes angen gradd arna i? Oes. Os ydych chi am weithio fel Nyrs Anableddau Dysgu bydd gofyn ichi gwblhau cwrs Anableddau Dysgu sydd wedi ei achredu gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Ymhle alla i hyfforddi yng Nghymru? Ewch i'n tudalennau Cyrsiau i ddysgu mwy.
Oes cyllid ar gael? Oes, am ragor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael a’ch hawl iddo, ewch i Wasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr.
Sut mae ennill profiad? I ddysgu am brofiad gwaith a chyfleoedd i wirfoddoli yn GIG Cymru, ewch i'n hadran Gwaith.
Sut y galla i ymgeisio am swydd? Mae pob swydd wag yn GIG Cymru yn cael ei hysbysebu ar wefan NHS Jobs. Ewch i’r adran Gwaith am ragor o wybodaeth.

Dolenni defnyddiol: