Neidio i'r prif gynnwy

Fframwaith Proffesiynol ar gyfer Ymarfer Clinigol Estynedig, Uwch ac Ymgynghorol yng Nghymru ar gyfer Ymgynghori

Ynglŷn â'r fframwaith
 

Mae diffinio lefelau ymarfer yn helpu i ddynodi sgiliau, gwybodaeth a chymhwysedd ymarferwyr.  Mae hyn yn galluogi sefydliadau i gynllunio'r addysg, yr oruchwyliaeth, y cymorth a’r prosesau llywodraethu sy’n angenrheidiol i alluogi unigolion i ddatblygu yn eu rolau ac ymgyrraedd at lefelau ymarfer newydd.

Mae AaGIC wedi datblygu canllawiau ar gyfer cofnodi rolau uwch-ymarfer yn ESR (Cofnod Staff Electronig y GIG).

Crëwyd y canllawiau i wella data GIG Cymru ynghylch y rolau hyn. Mae hyn yn cynnwys:

  • cofnodi a monitro nifer yr unigolion sy’n ysgwyddo rolau fel ymarferwyr estynedig, uwch ac ymgynghorol ar draws GIG Cymru;
  • gwella’r broses o gynllunio’r gweithlu;
  • adfer anghyfartaledd daearyddol.

Mae AaGIC wedi datblygu canllaw i gynorthwyo ymarferwyr estynedig, uwch ac ymgynghorol i ddatblygu portffolio o dystiolaeth sy'n arddangos lefel eu hymarfer fel yr amlinellir yn y Fframwaith Proffesiynol ar gyfer Ymarfer Clinigol Estynedig, Uwch ac Ymgynghorol yng Nghymru.

Nid yw e-bortffolio MARS ar gael bellach i ymarferwyr clinigol yng Nghymru