Neidio i'r prif gynnwy

Uned cymorth ailddilysu

Collage of Welsh landscapes

Nod yr Uned Cymorth Ailddilysu (RSU) yw cefnogi a gwella safonau proffesiynol drwy Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP), arfarnu ac ailddilysu.

Rydym yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru, y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC), Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA), a chyrff dynodedig yng Nghymru i ddarparu adnoddau a systemau o ansawdd uchel sy’n cael eu harwain yn broffesiynol.

Mae cydweithio fel tîm yn bwysig i ni ac yn sail i bopeth a wnawn. Mae ethos ein tîm yn cynnwys gwneud y defnydd gorau o’n gwybodaeth a’n harbenigedd, meddu ar agwedd gadarnhaol a rhagweithiol a rhannu arferion da wrth gefnogi ein gilydd.