Mae’r Uned Cymorth Ailddilysu (RSU) yn darparu ac yn rheoli’r broses arfarnu meddygon teulu ar gyfer oddeutu 2,600 o feddygon teulu yng Nghymru. Darperir y gwasanaeth hwn ar ran byrddau iechyd.
Ein nod yw darparu arfarniad blynyddol gyda sicrwydd ansawdd i bob meddyg teulu cymwys sydd â chysylltiad rhagnodedig â Swyddog Cyfrifol yng Nghymru, drwy ein system arfarnu ar-lein bwrpasol - System Arfarnu ac Ailddilysu Meddygol – MARS.
Mae arfarnu yn broses broffesiynol, ffurfiannol a datblygiadol. Mae’n ymwneud â nodi anghenion datblygu, nid rheoli perfformiad. Mae’n broses gadarnhaol i roi adborth i feddygon ar eu perfformiad yn y gorffennol, i gofnodi cynnydd parhaus ac i ganfod anghenion datblygu.
Rydym yn cyflogi rhwydwaith o Feddygon Teulu i fod yn arfarnwyr, wedi’u lleoli mewn rhanbarthau ledled Cymru, i arfarnu cymheiriaid. Maent yn cael cefnogaeth ac arweiniad lleol gan eu cydlynwyr arfarnu meddygon teulu rhanbarthol, yn ogystal â chefnogaeth genedlaethol gan dîm yr Uned Cymorth Ailddilysu a Chynhadledd Flynyddol Arfarnwyr Meddygon Teulu Cenedlaethol (NAC), sy’n cynnwys hyfforddiant ychwanegol, diweddariadau allweddol a gweithdai rhyngweithiol.
Rydym yn cynnal safon uchel a gydnabyddir yn genedlaethol drwy ymgymryd â gweithgareddau sicrhau ansawdd rheolaidd a thrwy ymrwymiad a gwaith caled ein meddygon teulu sy’n arfarnu.