Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth ailddilysu a rheoli ansawdd

Cogs

Rydym yn gweithio gydag ystod eang o randdeiliaid i ddarparu arweiniad, cynorthwyo a gyrru gwelliant parhaus yn ei flaen.

  • Rydym yn arwain ar, ac yn cyfrannu at, grwpiau Cymru gyfan i oruchwylio a chefnogi ailddilysu meddygol, gan sicrhau cysondeb mewn polisïau, canllawiau a gwella ansawdd.
  • Rydym yn darparu rhaglen o ddigwyddiadau hyfforddi ac adnoddau ar gyfer Arfarnwyr; mae hyn yn cynnwys ymarfer sicrhau ansawdd arfarnu (AQA) blynyddol. Nod y digwyddiad AQA yw gwneud asesiad sicrhau ansawdd ar allbynnau crynodeb arfarnu mewn gofal sylfaenol ac eilaidd ledled Cymru, tra hefyd yn darparu cymorth a hyfforddiant parhaus i Arfarnwyr.
  • Anogir yr holl Arfarnwyr i fynychu'r digwyddiad i rwydweithio â chydweithwyr a rhannu sgiliau arfarnu. Mae'r digwyddiad hwn yn adeiladu ar DPP ar gyfer arfarnwyr yn eu rôl tra hefyd yn cefnogi'r Uned Cymorth Ailddilysu i nodi themâu a gwelliannau ar gyfer ansawdd crynodeb arfarnu.
  • Rydym yn arwain rhaglen o weithgareddau rheoli ansawdd, gan gynnwys Adolygiadau Sicrwydd Ansawdd Ailddilysu i bob corff dynodedig yng Nghymru. Mae'r adolygiadau'n rhoi sicrwydd i'r Prif Swyddog Meddygol bod systemau arfarnu ac ailddilysu yn datblygu'n barhaus i fodloni, ac yn ddelfrydol, yn rhagori ar safonau ansawdd diffiniedig. Yn ogystal, rydym yn cynnal nifer o brosiectau gwella ansawdd i archwilio ffyrdd newydd o weithio, gan gynnig argymhellion ac arweiniad i wella ein systemau a'n prosesau yng Nghymru. Yna defnyddir canlyniadau ein gwaith ansawdd i ddatblygu cynllun gweithredu Cymru gyfan i gefnogi'r ymrwymiad parhaus hwn i wella ansawdd.
  • Rydym yn rheoli gwefan Ailddilysu yng Nghymru, sy'n manylu ar y prosesau ar gyfer sicrhau dull cyson o ailddilysu ac arfarnu ledled Cymru. Darperir y wefan ar ran Llywodraeth Cymru a chaiff ei datblygu a'i chefnogi gan yr Uned Cymorth Ailddilysu.