Neidio i'r prif gynnwy

Achrediad 'cyfeillgar i Gyn-filwyr' i Bractisau Meddygon Teulu yng Nghymru

Achrediad ‘cyfeillgar i Gyn-filwyr’ i Bractisau Meddygon Teulu yng Nghymru

Gall practisau meddygon teulu yng Nghymru ddod yn bractisau achrededig sy'n gyfeillgar i gyn-filwyr a darparu gofal arbenigol i gyn staff milwrol a chyn-filwyr presennol drwy raglen a gyflwynwyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Mae'r rhaglen hon yn galluogi practisau i gofrestru'n wirfoddol i ymgymryd â hyfforddiant arbenigol ar iechyd a lles cyn-filwyr a hyrwyddo triniaeth deg a pharchus tuag at bobl sydd wedi gwasanaethu gyda'r lluoedd arfog, a'u teuluoedd.

Bydd practisau sy'n ymuno â'r cynllun yn gofyn i gleifion newydd os ydyn nhw neu aelodau o'u teulu wedi gwasanaethu, neu yn gwasanaethu ar hyn o bryd, gyda lluoedd arfog Prydain. Bydd angen i bractisau gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyfforddiant a'r arweiniad diweddaraf ar iechyd cyn-filwyr, fel y gallant gefnogi iechyd eu cleifion yn y ffordd fwyaf effeithiol posib.

I gofrestru i ddod yn Bractis Achrededig Cyfeillgar i Gyn-filwyr, dylai meddygfeydd e-bostio heiw.cpdadmin@wales.nhs.uk.

Rhestr o bractisau cyfeillgar i gyn-filwr achrededig

Map o bractisau cyfeillgar i gyn-filwyr achrededig