Rhaglen 3D Darganfod, Datblygu a Darparu mewn Gofal Iechyd 2024-25 Proses Ymgeisio ar Agor
Mae’r rhaglen 3D Darganfod, Datblygu a Darparu mewn Gofal Iechyd yn rhaglen addysgol am ddim sy’n agored i bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig yn GIG Cymru.
Mae'r rhaglen yn cynnwys 6 modiwl (3 wyneb yn wyneb a 3 ar-lein) ac yn rhedeg rhwng Medi a Mai. Mae'r rhaglen 3D yn cyflwyno gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i'r wybodaeth a'r sgiliau a fydd yn eu cefnogi i ddarparu a gwella gwasanaethau cleifion yng Nghymru.
Bydd y broses ymgeisio ar gyfer carfan 2025-26 yn agor ddydd Llun 2 Mehefin ac yn cau ddydd Llun 30 Mehefin.
Mae rhagor o fanylion a ffurflenni cais ar Borth Arweinyddiaeth Gwella AaGIC.