Neidio i'r prif gynnwy

Dyrchafiad dros dro

Mae hyfforddeion y mae disgwyl iddynt ennill eu CCT ymhen blwyddyn yn gymwys i ymroi i ‘Weithredu Uwch’ fel ymgynghorwyr, hyd at uchafswm o dri mis (pro rata ar gyfer Llai na Llawn-amser). Bydd hyfforddeion hefyd yn cadw eu Rhif Hyfforddiant Cenedlaethol (NTN) yn ystod y cyfnod o weithredu uwch.

Rhaid defnyddio'r term ‘gweithredu uwch’ ac nid ‘locwm’ pan yn ymgymryd â’r swydd. Mae’n bosibl i’r amser a dreulir yn ymroi i ‘weithredu uwch’ gael ei gydnabod er budd rhaglen hyfforddi sy'n arwain at ddyfarniad CCT.

Rhaid i hyfforddeion gael cymeradwyaeth ffurfiol y Deon neu’r Dirprwy Ddeon Ôl-raddedig a Chyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddiant i warantu ‘gweithredu uwch’. Lawrlwythwch y ffurflen gais gweithredu uwch.

Dylai ceisiadau gyrraedd Deoniaeth Cymru o leiaf wyth wythnos cyn dyddiad cychwyn arfaethedig y trefniant gweithredu uwch.

NI fydd hyfforddeion sydd eisoes wedi ennill CCT yn gymwys i ymroi i ‘weithredu uwch’ ond bydd disgwyl iddynt ymgymryd â’r swydd fel Ymgynghorydd Locwm. Gofynnir i hyfforddeion ildio eu Rhif Hyfforddiant Cenedlaethol (NTN) ar dderbyn swydd Ymgynghorydd Locwm.

Ni fyddwn ond yn derbyn ceisiadau ar gyfer gweithredu uwch yng Nghymru (ni all Hyfforddeion ymroi i weithredu uwch y tu allan i Gymru).

Gweler gwefan y GMC am ragor o wybodaeth am weithredu uwch.