Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad Ymgynghori Fframwaith Prentisiaeth Therapi

Fel Partner Datblygu Llywodraeth Cymru ar gyfer y Fframweithiau Prentisiaethau Iechyd, mae AaGIC wedi bod yn arwain yn yr adolygiad o’r Fframwaith Prentisiaeth Therapi.

Sefydlwyd grŵp llywio i oruchwylio'r adolygiad hwn gyda chyfranogiad eang o randdeiliaid. Mae'r fframwaith a adolygwyd bellach yn barod ar gyfer cyfnod ymgynghori pedwar wythnos cyn cael ei gymeradwyo a'i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Byddem yn falch iawn pe gallech gymryd ychydig funudau o'ch amser ac ateb rhai cwestiynau am gynnwys y fframwaith i sicrhau ei fod yn bodloni anghenion y gweithlu Gweithwyr Cymorth Therapi.

Mae Gweithwyr Cymorth Therapi yn gallu cyrchu Fframweithiau Prentisiaeth eraill os bernir eu bod yn fwy addas i’w rôl e.e. y Fframwaith Prentisiaethau Cymorth Gofal Iechyd Clinigol.

Yn ogystal â’r fframwaith drafft ar gyfer adolygiad

Sut i ymateb i'r ymgynghoriad:

Gallwch gael mynediad i'r fframwaith drafft i'w adolygu yma.

Gallwch ymateb i'r ymgynghoriad trwy Microsoft Forms, yma.

Cysylltwch â HEIW.WBLApprenticeships@wales.nhs.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau.