Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn arwain ar ddigwyddiad ymgynghori i ganfod a oes rôl i brentisiaethau gradd ar gyfer Proffesiynau Gofal Iechyd o ran hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y dyfodol. Fel y gwyddoch efallai AaGIC yw Partner Datblygu Llywodraeth Cymru ar gyfer y gyfres o brentisiaethau Gofal Iechyd.
Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.
Canlyniadau'r ymgynghoriad
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar Brentisiaethau Gradd mewn gofal iechyd yng Nghymru ym mis Tachwedd 2023. Darparodd yr ymgynghoriad ganlyniadau amrywiol. Mae'n ymddangos bod rhai sectorau'n cytuno bod lle i ymchwilio ymhellach i ddarpariaeth prentisiaethau gradd o fewn y sector
Hoffai’r tîm ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad a gellir lawrlwytho copi o’r adroddiad terfynol yma.
I archebu gweithdy, cliciwch ar y dyddiad yr hoffech chi fynychu a chofrestru drwy Eventbrite.
Mae gennym gydweithwyr sy'n siarad Cymraeg ar gael dydd Gwener 15 Medi a dydd Mawrth 17 Hydref. Os ydych angen i unrhyw un o'r gweithdai a ddyrannwyd gael eu cyfieithu o'r Gymraeg ar y pryd, rhowch wybod i ni o leiaf 5 diwrnod gwaith ymlaen llaw drwy'r cwestiynau cofrestru a byddwn yn sicrhau bod hyn ar gael ar y diwrnod.
Gofynnir am farn unrhyw grwpiau staff o'r GIG, Gofal Cymdeithasol, cymunedol, a chontractwyr annibynnol.