Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad Ymgynghori Fframwaith Hyfforddiant Cymorth Rheoli Meddyginiaethau Cymru Gyfan

Mae darparu iechyd a gofal cymdeithasol i boblogaeth Cymru yn gwbl ddibynnol ar y gweithlu sy'n darparu'r gwasanaeth hwnnw. Heb y nifer gorau posibl o weithwyr â sgiliau priodol, ni ellir darparu gwasanaethau iechyd, gofal a chymorth o ansawdd uchel. Gall gweithlu effeithiol lle mae sgiliau a gwybodaeth wedi'u halinio, gwella ansawdd, effeithlonrwydd ariannol a lles hirdymor cymunedau.

Rydym yn cydnabod y pwysau sydd ar y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn teimlo'n hyderus ac yn gymwys i reoli meddyginiaethau'n ddiogel wrth i ni geisio manteisio i'r eithaf ar wasanaethau i gefnogi unigolion yn eu cymunedau, gan gefnogi pobl i gadw annibyniaeth a byw'n dda.

Mae Fframwaith Hyfforddiant Cymorth Rheoli Meddyginiaethau Cymru Gyfan (y fframwaith) yn nodi'r safonau y dylid eu defnyddio i lywio ymarfer o fewn y sector gofal cymdeithasol.  

Byddem yn croesawu eich sylwadau ar y ddogfen ddrafft o'r enw “Fframwaith Hyfforddiant Cymorth Rheoli Meddyginiaethau Cymru Gyfan”.

Mae'r fframwaith yn pennu'r hyfforddiant sydd ei angen i sicrhau bod gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yr wybodaeth, y sgiliau a'r cymhwysedd i reoli a rhoi meddyginiaethau yn ddiogel mewn amrywiaeth o leoliadau gofal yn unol â'u rôl. 

Cyrchwch y ddogfen isod, ychwanegwch unrhyw sylwadau at ein ffurflen a'i hanfon atom: HEIW.PT@wales.nhs.uk (Defnyddiwch y pwnc e-bost: Fframwaith hyfforddiant meddyginiaethau).

 

Adnoddau