Neidio i'r prif gynnwy

Therapi cerddoriaeth

Beth yw therapi cerdd?

Ymyriad seicolegol sefydledig yw therapi cerdd, sy’n helpu pobl y mae eu bywydau wedi eu heffeithio gan anafiadau, salwch neu anabledd. Mae’n gwneud hyn trwy gefnogi eu hanghenion seicolegol, emosiynol, gwybyddol, corfforol, cyfathrebu a chymdeithasol.

Beth mae therapyddion cerdd yn ei wneud?

Gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yw therapyddion cerdd sydd wedi eu hyfforddi’n drwyadl. Maent yn darparu triniaeth y gall drawsnewid bywydau pobl.  Mae therapyddion cerdd yn helpu eu cleientiaid i gyflawni nodau therapiwtig, trwy ddatblygiad y berthynas gerddorol a therapiwtig.  Nid dysgu cleientiaid i chwarae offeryn yw nod therapydd cerdd, ac nid oes angen bod yn ‘gerddorol’ er mwyn ymwneud ag ef.  Mae therapyddion cerdd yn gweithio ag ystod o arddulliau a genres, gan gynnwys byrfyfyrio rhydd, er mwyn cynnig sesiynau priodol, sensitif ac ystyrlon i’w cleientiaid.

Mewn therapi cerdd, mae therapyddion yn manteisio ar nodweddion cynhenid cerddoriaeth i gefnogi pobl o bob oedran ac ymhob cyfnod o fywyd; gall hyn gynnwys helpu babanod newydd-anedig i ddatblygu perthynas glòs â’u rhieni neu gynnig gofal lliniarol hanfodol, sensitif a thosturiol ar ddiwedd oes.  Mae therapyddion cerdd yn cynnig sesiynau unigol a sesiynau i grwpiau.

Mae therapyddion cerdd yn cydweithio â gweithwyr proffesiynol eraill er mwyn darparu gofal i gleifion sy’n holistaidd a chyd-gysylltiedig. Gall hyn gynnwys cynnig asesiadau, mynd i gyfarfodydd, siarad ar y ffôn bob wythnos â theulu’r cleient neu â gofalwyr, darparu sesiynau ar y cyd â gweithwyr proffesiynol eraill megis therapyddion iaith a lleferydd, ysgrifennu adroddiadau a gwneud argymhellion am ragor o driniaeth.

Ymhle mae therapyddion cerdd yn gweithio?

Mae therapyddion cerdd yn gweithio fel aelodau amlddisgyblaethol mewn timau:

  • Iechyd
  • Addysg
  • Gofal Cymdeithasol
  • Meddygfa breifat

Pa oriau mae therapyddion cerdd yn gweithio?

Mae therapyddion cerdd yn gweithio’n rhan amser ac mewn rhai achosion yn llawn amser i’r GIG.  Maent yn gweithio 9am tan 5pm fel arfer, ond gall hyn amrywio gan ddibynnu ar eu gwasanaeth a’u rôl.  Mewn lleoliadau eraill, bydd eu horiau gwaith yn dibynnu ar ble maent yn gweithio.  Er enghraifft, mewn cyd-destun addysg, mae’n bosibl y byddant yn gweithio yn ystod oriau ysgol a dim ond yn ystod y tymor.

Mae oriau gwaith therapyddion hunangyflogedig yn dibynnu yn aml ar argaeledd eu cleientiaid a’u hanghenion.  Mae’n bosibl y byddant yn gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau yn ôl anghenion rhai cleientiaid preifat. Mae rhaid i therapyddion gynnwys amser teithio fel rhan o’u hamserlen waith, yn enwedig y rhai sy’n gweithio mewn practis preifat neu mewn lleoliadau anghysbell.

Faint mae therapyddion yn ei ennill?

Y lefel mynediad ar gyfer cyflogaeth yw Band 6; ewch i'n hadran am Gyflog a Buddion am ragor o wybodgeth.

Bydd incwm therapyddion cerdd hunangyflogedig yn amrywio gan ddibynnu ar eu llwyth gwaith a’u cytundebau contract.  Mae llawer o therapyddion cerdd yn cyfuno eu gwaith â diddordebau gyrfa eraill megis perfformio neu addysgu, gan greu cyfleoedd incwm eraill.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i therapyddion cerdd gamu ymlaen yn eu gyrfa?

Sut y galla i ddod yn therapydd cerdd? Er mwyn dod yn therapydd cerdd, mae rhaid ichi wneud cwrs Meistr sydd wedi ei achredu gan y Cyngor Proffesiynau Gofal ac Iechyd. Mae’r cyrsiau hyn yn para am ddwy flynedd (llawn amser) neu hyd at bedair blynedd (rhan-amser). Mae cwblhau’r cwrs Meistr yn galluogi graddedigion i wneud cais am gofrestriad gwladol â chorff rheoleiddio therapyddion celf, sef y Cyngor Proffesiynau Gofal ac Iechyd. Chewch chi ddim gweithio fel therapydd cerdd (therapydd celf) yn y DU heb y cofrestriad hwn
Oes angen gradd arna i? Mae rhaid bod â dawn gerddorol er mwyn gwneud cwrs therapi cerdd; fel arfer, mae ymgeiswyr ond yn cael eu derbyn os ydynt wedi derbyn hyfforddiant cerddoriaeth am dair blynedd sy’n arwain at ddiploma neu radd o goleg cerdd neu brifysgol.  Mae’n bosibl y caiff ymgeiswyr â graddau mewn pynciau eraill eu derbyn, e.e. addysg neu seicoleg, os ydynt wedi cyflawni safon uchel o berfformiad cerddorol.  Mae asesu’ch personoliaeth a’ch addasrwydd ar gyfer y gwaith hefyd yn ffurfio rhan bwysig o’r broses cyfweld.
Ymhle galla i hyfforddi yng Nghymru? Prifysgol De Cymru.

Oes cyllid ar gael?

Mae myfyrwyr therapi cerdd yn cyllido eu hunain ac mae gwaith rhan-amser ynghyd â gwneud ceisiadau am grantiau, cyllid a benthyciadau yn eu helpu i dalu costau hyfforddiant.  Gellir dod o hyd i wybodaeth am gyllid yn y sefydliadau hynny sy’n cynnig hyfforddiant.
Oes angen profiad arna i er mwyn ymgeisio ar gyfer y cwrs? Mae therapyddion cerdd yn dilyn eu diddordebau clinigol trwy wneud ymchwil ar gyfer MPhil neu PhD yn aml, neu’n dewis ymchwilio i’w ymarfer a’i ddatblygu ym meysydd clinigol neilltuol megis therapi cerdd niwrolegol
A oes cyfleoedd i ôl-raddedigion? Mae disgwyl bod gennych chi brofiad o weithio mewn meysydd perthnasol megis iechyd neu addysg (gan gynnwys gwaith gwirfoddol).
Sut galla i ennill profiad?

Mae lleoliadau therapi cerdd yn elfen greiddiol o hyfforddiant meistr.  Mae profiad o weithio yn y proffesiynau cymorth, boed hynny yn wirfoddol neu â thâl, yn rhoi syniad defnyddiol ichi o’r cyd-destun y mae therapyddion cerdd y gweithio ynddo.

I ddysgu am brofiad gwaith a chyfleoedd i wirfoddoli yn GIG Cymru, ewch i'n hadran Gwaith.

Sut galla i ymgeisio am swydd?

Mae Cymdeithas Therapyddion Cerdd Prydain yn darparu gwasanaeth hysbysebu swyddi i’w haelodau. Mae hysbysebu gyda’r Gymdeithas yn rhad ac am ddim.

Bydd ymddiriedolaethau’r GIG yn hysbysebu eu swyddi ar NHS Jobs a bydd eraill yn hysbysebu ar eu gwefan eu hun.

Ewch i’r adran Gwaith i gael rhagor o wybodaeth.

Dolenni defnyddiol: