Mae Therapyddion Iaith a Lleferydd yn darparu triniaeth, cymorth a gofal trawsnewidiol i blant ac oedolion sy’n ei chael yn anodd cyfathrebu, bwyta, yfed neu lyncu.
Maen nhw’n gweithio gyda rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill hefyd fel athrawon, nyrsys a therapyddion galwedigaethol a meddygon.
Os ydych chi wrthi’n ystyried pa un ai gweithio fel therapydd iaith a lleferydd yw’r dewis gyrfa iawn i chi, gofynnwch y cwestiynau hyn ichi eich hun:
ydych chi’n mwynhau gweithio gyda phobl o bob oedran?
ydych chi’n gallu gweithio’n rhan o dîm?
oes sgiliau gwrando a chyfathrebu da gennych chi?
ydych chi’n mwynhau datrys problemau?
oes sgiliau astudio da gennych chi?
ydych chi am fod yn rhan o broffesiwn dynamig sydd wrthi’n datblygu’n gyflym, ac sy’n tynnu ar wyddoniaeth, addysg a meddygaeth?
oes doniau arwain a sgiliau negodi gennych chi?
Mae therapyddion iaith a lleferydd yn trin pobl sydd â phroblemau cyfathrebu, bwyta, yfed a llyncu.
Maen nhw’n helpu pobl sy’n dioddef o nifer o gyflyrau, megis:
Ac maen nhw’n helpu oedolion gyda’r canlynol:
Mewn llawer o achosion, bydd therapyddion iaith a lleferydd hefyd yn cefnogi gofalwyr defnyddwyr gwasanaethau.
Mae therapyddion iaith a lleferydd yn gweithio mewn:
canolfannau iechyd cymunedol
wardiau ysbyty
adrannau cleifion allanol
ysgolion prif ffrwd ac ysgolion arbennig
Unedau asesu a chanolfannau dydd
ac yng nghartrefi cleifion hefyd
Mae rhai hefyd yn gweithio yn y llys, mewn carchardai ac mewn sefydliadau troseddwyr ifainc
Mae telerau ac amodau yn dibynnu ar y cyflogwr. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o therapyddion iaith a lleferydd yng Nghymru wedi eu cyflogi gan y GIG o dan yr Agenda ar gyfer Newid. Yr oriau amser llawn yw 37.5 awr yr wythnos.
Yn y GIG, mae therapyddion iaith a lleferydd cymwys ar lefel mynediad yn dechrau ar Fand 5; ewch I’n hadran am Gyflog a Buddion am ragor o wybodgeth.
Gall therapyddion iaith a lleferydd fwrw ymlaen yn eu gyrfa trwy ddewis arbenigo mewn maes ymarfer penodol, fel gofal critigol, atal dweud, anableddau dysgu a chyflyrau niwrolegol. Mae dewisiadau eraill yn cynnwys dysgu neu ymchwil.
Gallwch chi fynd ymlaen i’r byd rheoli hefyd, naill ai ym maes therapi iaith a lleferydd neu ym maes rheoli yn gyffredinol. Fel pennaeth gwasanaeth lleol, byddech yn gyfrifol am dîm o staff a rheoli cyllideb.
Mae rhai therapyddion iaith a lleferydd yn sefydlu eu practis eu hun.
Oes angen gradd arna i? | Oes, mae’n rhaid i bob therapydd iaith a lleferydd gwblhau rhaglen radd gydnabyddedig a chofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Gofal ac Iechyd cyn cael ymarfer. |
Ymhle galla i hyfforddi yng Nghymru? | |
Oes cyllid ar gael? | Oes, am ragor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael a chymhwysedd ar ei gyfer, ewch i Wasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr. |
Oes cyfleoedd ôl-raddedig? | Os oes gradd anrhydedd gennych eisoes neu radd gyfwerth, mae’n bosibl y bydd modd ichi gael lle ar raglen gymhwyso ôl-raddedig ddwy flynedd. Mae pynciau mewn meysydd cysylltiedig (fel Seicoleg, y Gwyddorau Cymdeithasol ac Ieithyddiaeth) yn cael eu ffafrio. |
Sut mae ennill profiad? |
Cysylltwch â staff eich gwasanaeth therapi iaith a lleferydd lleol, gan ei bod yn bosibl y bydd modd iddynt drefnu sesiwn arsylwi. Fodd bynnag, does dim rhaid ichi wneud hyn. Mae gwaith gwirfoddol a mathau eraill o brofiad gwaith oll yn cael eu hystyried i fod yn berthnasol. I ddysgu am brofiad gwaith a chyfleoedd I wirfoddoli yn GIG Cymru, ewch I’n hadran Gwaith. Cysylltwch â’ch swyddfa wirfoddoli leol neu ceisiwch ennill ychydig o brofiad gwaith ym maes gofal iechyd, mewn cartref nyrsio neu mewn ysgol. Mae angen gwirfoddolwyr ar grwpiau strôc lleol yn aml. Mae’n bosibl y bydd y sefydliadau canlynol, sy’n helpu pobl sydd ag anawsterau iaith a lleferydd, yn gallu rhoi gwybodaeth ichi ynghylch cyfleoedd am waith gwirfoddol: Connect, Headway, Y Gymdeithas Strôc, Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru, Afasic, Sense. |
Sut y galla i ymgeisio am swydd? |
Caiff holl swyddi gwag GIG Cymru eu hysbysebu ar NHS Jobs. Ewch i’r adran Gwaith i gael rhagor o wybodaeth. Gall aelodau o Goleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd weld hysbysebion o gyflogwyr eraill, fel ysgolion. |