Neidio i'r prif gynnwy

Therapi celf

Beth yw therapi celf/seicotherapi celf?

Mae therapi celf yn fath o seicotherapi sy'n defnyddio cyfryngau celf fel ei brif ddull mynegiant a chyfathrebu.

Caiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun therapiwtig, a defnyddir celf fel cyfrwng i nodi a mynd i'r afael â materion seicolegol, emosiynol a lles a allai fod yn ddryslyd ac yn ofidus.

Ai therapi celf yw’r yrfa iawn i fi?

Mae gyrfa mewn therapi celf yn cynnig cyfle i fod â chysylltiad proffesiynol â chelf a therapi seicolegol. Mae hefyd yn gwneud gwaith yn ystyrlon: mae therapi celf yn helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywyd llawer o bobl sy'n ei chael hi'n anodd cyfathrebu ar lafar neu'n ei chael hi'n anodd cyflwyno’u meddyliau a'u teimladau ar lafar. 

Mae angen i therapyddion celf fod yn hyblyg ac yn ddyfeisgar. Yn y cyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol cyfredol, mae angen sgiliau entrepreneuraidd hefyd. Mae llawer o therapyddion celf yn cychwyn eu gyrfa ar sail hunangyflogedig ac yn sefydlu darpariaethau therapi celf mewn amrywiaeth eang o leoliadau. 

Beth mae therapyddion celf yn gwneud?

Mae therapyddion celf yn helpu pobl i gyflawni newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau. Maent yn gweithio'n therapiwtig gyda phobl o bob oed, ar bob cam o fywyd, ac o bob cefndir. Efallai y bydd gan gleientiaid ystod eang o anawsterau, anableddau neu ddiagnosis. Mae'r rhain yn cynnwys problemau iechyd emosiynol, ymddygiadol, seicolegol neu feddyliol, anableddau dysgu neu gorfforol, cyflyrau corfforol tymor byr neu dymor hir a chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd. 

Gellir darparu therapi celf mewn grwpiau neu'n unigol, yn dibynnu ar anghenion cleientiaid. Mae'n bwysig cydnabod nad yw'r gweithgareddau hyn yn weithgareddau hamdden nac yn wersi celf, er y gall y sesiynau fod yn bleserus. Nid oes angen i gleientiaid feddu ar unrhyw brofiad nac arbenigedd blaenorol mewn celf. 

Ble mae therapyddion celf yn gweithio? 

Mae therapyddion celf yn y DU yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau: GIG, gwasanaethau cymdeithasol, addysg gynradd, addysg uwchradd, addysg bellach ac addysg arbennig, elusennau, carchardai, practis preifat ac ati. Yn y GIG, mae therapyddion celf yn gweithio mewn gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc, gwasanaethau oedolion (gan gynnwys gofal iechyd meddwl cleifion mewnol a chymunedol), lleoliadau arbenigol (fforensig, anhwylderau bwyta, gofal lliniarol) ac mewn partneriaeth â sefydliadau eraill ym mhrosiectau'r celfyddydau ym maes iechyd a lles. 

Beth yw oriau gwaith therapyddion celf? 

Mae oriau gwaith therapyddion celf yn amrywio yn unol â’u lleoliad gwaith.  

Beth yw cyflog therapyddion celf?

Y cyflog cychwynnol sylfaenol yw Band 6 neu 7 yn y GIG; gweler ein hadran Tâl a Budd-daliadau am ragor o wybodaeth. 

Sut mae dod yn therapydd celf? 

 

Oes angen gradd arnaf? Oes, i weithio fel therapydd celf neu seicotherapydd celf (mae'r ddau deitl wedi'u gwarchod gan y gyfraith ac yn rhyng-gyfnewidiol), mae'n orfodol eich bod wedi cwblhau rhaglen hyfforddi meistri therapi celf a ddilyswyd gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).
Ble alla i hyfforddi yng Nghymru?

Prifysgol De Cymru: MA Seicotherapi Celf.

Oes cyllid ar gael? Nac oes. Yn dibynnu ar amgylchiadau personol myfyrwyr, dim ond nifer fach o fwrsariaethau sydd ar gael. I gael rhagor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael a'r cymhwysedd perthnasol, ewch i wefan Ffioedd a Chyllid y brifysgol. 
A oes cyfleoedd ôl-raddedig ar gael? Mae cyfleoedd pellach yn bodoli i astudio gradd ymchwil (PhD, MPhil a MRes), hyfforddiant goruchwylio ymgynghorol a chyrsiau arbenigol ôl-gymhwyso eraill. 
Sut ydw i'n ennill profiad? I ddarganfod mwy am brofiad gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli yn GIG Cymru, ymwelwch â'n hadran Waith. Am fathau eraill o gyfleoedd ewch i dudalen Gyrfaoedd a Hyfforddiant Cymdeithas Therapyddion Celf Prydain.
Sut ydw i'n ymgeisio am swydd?

Mae holl swyddi gwag GIG Cymru yn cael eu hysbysebu ar wefan NHS Jobs. Ewch i'n hadran Gwaith i gael mwy o wybodaeth. 

 

Dolenni defnyddiol: