Neidio i'r prif gynnwy

Ffisiotherapi

Beth yw ffisiotherapydd?

Mae ffisiotherapyddion yn helpu pobl i fod yn annibynnol am mor hir â phosibl. Maent yn cynorthwyo pobl i wella trwy eu helpu i symud a chwblhau tasgau’n well pan fydd rhywun wedi cael ei effeithio gan anaf, salwch neu anabledd. Yr hyn sydd wrth wraidd ffisiotherapi yw cynnwys y claf yn ei ofal a’i driniaeth ei hun trwy addysgu, cynghori a chyfranogi.

Ai ffisiotherapi yw’r yrfa iawn i fi?

Mae ffisiotherapi yn broffesiwn sy’n seiliedig ar wyddoniaeth, felly bydd angen i chi fod â diddordeb mewn anatomeg, ffisioleg a gwyddor iechyd.

Fel ffisiotherapydd, bydd angen i chi fod yn:

  • Ofalgar
  • Gallu ymdrin â phobl a gallu eu hysgogi
  • Gallu gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaeth yn ogystal â gweithio ar eich menter eich hun

Beth mae ffisiotherapyddion yn gwneud?

Gan ddefnyddio dull ‘person cyfan’ o wella iechyd a lles (gan gynnwys ffordd gyffredinol y claf o fyw), mae ffisiotherapyddion yn gweithio gyda phobl sydd â chyflyrau o bob math, fel:

  • Niwrolegol - strôc, sglerosis ymledol, clefyd Parkinson
  • Cyhyrysgerbydol - poenau cefn, poen gwddf yn ymwneud ag anafiadau chwiplach, anafiadau chwaraeon, arthritis
  • Cardiofasgwlar -; clefyd cronig y galon, adsefydlu ar ôl trawiad ar y galon
  • Anadlol - clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, asthma, ffibrosis systig
  • Cyflyrau meddygol tymor hir

Pan fydd ffisiotherapydd wedi asesu’r broblem, byddant yn penderfynu sut i’w drin. Gall hyn fod trwy symud ac ymarfer corff, neu therapi â llaw (fel tylino).

Ym mhle y mae ffisiotherapyddion yn gweithio?

Mae hyfforddi a gweithio fel ffisiotherapydd yn rhoi cyfle i chi weithio mewn lleoliadau o bob math, gan gynnwys:

  • Ysbytai/ysbytai aciwt
  • Ysgolion
  • Gweithleoedd
  • Clybiau chwaraeon, campfeydd a’r sector hamdden
  • Cartrefi cleifion

Beth yw cyflog ffisiotherapyddion?

Yn y GIG, byddai swydd lefel mynediad ffisiotherapydd cymwys yn dechrau ar Fand 5; Ewch i'n hadran am Gyflog a Buddion am ragor o wybodgeth.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i ffisiotherapyddion gamu ymlaen yn eu gyrfa?

Mae ffisiotherapi’n cynnig nifer o ddewisiadau cyflogaeth gwahanol a hyblyg. Pan fyddwch wedi cymhwyso ac wedi ennill profiad clinigol, gallwch fod yn:

  • Ffisiotherapydd ymgynghorol yn y gwasanaethau cyhyrysgerbydol
  • Darlithydd prifysgol
  • Ffisiotherapydd i dîm chwaraeon cenedlaethol
  • Ymchwilydd i elusennau cleifion fel y Gymdeithas Sglerosis Ymledol
  • Rhedeg eich practis preifat eich hun
  • Rheolwr Gwasanaeth

Sut gallaf ennill swydd fel ffisiotherapydd?

A oes angen gradd arnaf? Oes, os hoffech weithio yn y GIG, bydd angen i chi gwblhau cwrs a gymeradwywyd gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
Ym mhle galla i gael fy hyfforddi yng Nghymru? Prifysgol Caerdydd.
A oes cyllid ar gael? Oes, ewch i’r Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr am ragor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael ac i weld a ydych yn gymwys
A oes cyfleoedd i ôl-raddedigion? Mae gwefan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal yn rhoi manylion am raglenni ôl-raddedig a gymeradwywyd yn y DU.
Sut galla i ennill profiad?

I ddysgu am brofiad gwaith a chyfleoedd i wirfoddoli yn GIG Cymru, ewch i'n hadran Gwaith.

Mae gan Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi (CSP) wybodaeth ddefnyddiol am ennill profiad gwaith.

Sut galla i ymgeisio am swydd?

Caiff holl swyddi gwag GIG Cymru eu hysbysebu ar NHS Jobs; ewch i’r adran Gwaith i gael rhagor o wybodaeth.

Mae gan y CSP adran swyddi hefyd.

Dolenni defnyddiol: