Mae ceisiadau ar gyfer Cymrodoriaeth Cymdeithion 2023 bellach wedi cau. Byddwn yn cyhoeddi manylion Cymrodoriaeth Arloesedd Gwyddor Gofal Iechyd NIHR/Dyfeisiau ar gyfer Urddas yn hydref 2023. I gael gwybodaeth am gael mynediad i’r naill Gymrodoriaeth neu’r llall, cysylltwch â’r Tîm Gwyddor Gofal Iechyd ar HEIW.HCS@wales.nhs.uk.
Mae'n bleser gennym gyhoeddi Cymrodoriaeth Cymdeithion Arloesedd pwrpasol ar gyfer Gwyddonwyr Gofal Iechyd yn GIG Cymru.
Oes gennych chi lawer o syniadau ar gyfer prosiectau arloesi, ond ddim yn siŵr ble i ddechrau?
Yn awyddus i wneud cais am gyllid, ond heb yr amser na'r gefnogaeth i weithio ar y cais?
Gweithio tuag at bortffolio cywerthedd cofrestru, ond eisiau gwneud rhywbeth gwahanol i ymchwil?
Mae'r cynllun Cymrodoriaeth Cymdeithion Arloesedd 4 mis hwn ar gyfer Gwyddonwyr Gofal Iechyd yng Nghymru wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sy'n ystyried ymgymryd â phrosiect arloesi yn fuan.
Yn dilyn datganiadau o ddiddordeb a chyfweliad llwyddiannus, bydd Cymrodyr Cymdeithion Arloesedd yn gallu cael mynediad at blatfform dysgu Cymrodoriaeth Arloesedd Gwyddor Gofal Iechyd NIHR/Dyfeisiau ar gyfer Urddas am 4 mis (canol Gorffennaf hyd at ganol mis Tachwedd 2023).
Byddwch hefyd yn derbyn y canlynol:
Ceir rhagor o wybodaeth isod: