Neidio i'r prif gynnwy

Cymrodoriaeth Trawsnewid y Gwasanaeth Gwyddor Gofal Iechyd – Cynnydd

Beth yw Cymrodoriaeth Trawsnewid y Gwasanaeth Gwyddor Gofal Iechyd – Cynnydd?

Wedi'i ariannu gan y Rhaglen Gwyddor Gofal Iechyd, gellir gwneud cais am Gymrodoriaethau Trawsnewid Gwasanaeth o hyd at £3,500 o unrhyw broffesiwn o fewn Gwyddor Gofal Iechyd yng Nghymru.

Mae’r gymrodoriaeth yn galluogi aelodau unigol i ymweld ag adrannau neu ganolfannau rhagoriaeth y tu allan i Gymru i ddysgu sgiliau newydd neu arferion rhagorol a’u rhoi ar waith y gellir eu rhoi ar waith yng Nghymru ar ôl iddynt ddychwelyd.

Gweler y Llawlyfr Trawsnewid Gwasanaeth am fwy o fanylion.

 

Pwy all wneud cais?

Gweithwyr GIG Cymru o fewn proffesiwn Gwyddor Gofal Iechyd.

 

Gwnewch gais nawr!

Cwblhewch y ffurflen gais ar-lein a defnyddiwch y llawlyfr i sicrhau eich bod wedi cwblhau pob adran yn llawn.

Rhaid i chi hefyd lawrlwytho llythyr cymeradwyo arweinydd gwasanaeth a'i gyflwyno gydâ'ch cais.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 10 Mai 2024.

 

Unrhwy cwestiwn?

Ebostiwch HEIW.HCS@wales.nhs.uk