Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogwch weithlu'r GIG

Abstraction of medical tools

Cyffredinol

Gwefan iechyd a lles cydweithwyr GIG Cymru

Gall holl staff nawr ymweld â’r ‘Gwefan iechyd a lles cydweithwyr GIG Cymru’ sy’n darparu llawer o adnoddau iechyd a lles i’w cefnogi ar yr adeg anodd hon.

Baker's Dozen

Canllaw i weithwyr gofal iechyd ar reoli straen a gwytnwch.

Canllawiau Dirprwyo Cymru Gyfan

Datblygwyd canllawiau cenedlaethol i gynorthwyo gyda rheolaeth ac ymarfer pob gweithred o ddirprwyo addas. 

Fe'u datblygwyd yn bennaf i gefnogi staff clinigol, ond gellid cymhwyso'r egwyddorion i bob grŵp staff ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.

Gellir gweld y canllawiau dirprwyo Cymru gyfan llawn yma.

Adnoddau ar-lein safeMedicate ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ynghyd â'r tîm safeMedicate, yn falch o gynnig mynediad am ddim i'w adnoddau ar-lein i weithwyr iechyd proffesiynol fel cyfraniad at gefnogi'r GIG a chi yn ystod yr argyfwng COVID-19 hwn.

Gallwch ddefnyddio safeMedicate i ddiweddaru eich cymhwysedd mewn cyfrifiadau dos cyffuriau, a/neu weithio trwy y modiwl Rheoli COVID-19 newydd i gefnogi unrhyw ofynion uwchsgilio cyfrifiad dos wrth baratoi ar gyfer gofalu am gleifion â salwch cysylltiedig â COVID-19.

  • Dilynwch y ddolen hon i gyflwyno'ch cais a'ch cofrestru.
  • Wedi cofrestru eisoes? - dilynwch y ddolen hon i fewngofnodi.

Offer Amddiffyn Personol (PPE)

Gellir gweld canllawiau Offer Amddiffyn Personol (PPE) ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a dolenni cysylltiedig yma.

Adnodd gofal dementia

Mewn cydweithrediad â Gofal Cymdeithasol Cymru, Gwelliant Cymru a Helen Lambert, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi datblygu adnodd hyfforddi newydd ar gyfer gweithwyr gofal sy'n cefnogi'r rhai sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd. 

Gallwch weld yr adnodd yma. 

Adnodd cefnogaeth yn dilyn digwyddiad trawmatig

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru a DNA Definitive wedi datblygu ffeithlun i helpu i gefnogi'r rhai sydd wedi profi digwyddiad trawmatig.

Digwyddiad trawmatig yw unrhyw ddigwyddiad y gellir ei ystyried i fod y tu allan i brofiadau arferol unigolyn, ac sy'n achosi niwed corfforol, emosiynol neu seicolegol. 

Huned Cymorth Proffesiynol

Mae ein Huned Cymorth Proffesiynol yma i gefnogi hyfforddeion yn ystod yr amser heriol hwn. Cysylltwch â’r uned i gael cyfarfod un i un (dros y ffôn/Skype) I drafod unrhyw heriau yr ydych yn wynebu. E-bostiwch HEIW.professionalsupport@wales.nhs.uk neu os yw ar frys ffoniwch Leona Walsh ar 07900191933

Adnoddau COVID-19 Cymorth Cyntaf Iechyd Seicolegol ac Iechyd Meddwl

Mae'r adnoddau isod yn fynediad agored i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac yn darparu cyngor ymarferol i'ch cefnogi chi a'ch cleifion trwy'r pandemig COVID-19.

COVID-19: Cymorth Cyntaf Seicolegol (Future Learn)

Iechyd meddwl yn ystod COVID-19 (Addysg a Gwella Iechyd Cymru)

Nyrsio a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHPs)

Porth adnoddau hyfforddi COVID-19 i nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd

Gall nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ddefnyddio ein porth ‘Adnoddau hyfforddi COVID-19 i nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd’ sydd yn cynnwys hyfforddiant ar ddirprwyo, adleoli i leoliadau clinigol, gofal critigol ac adnoddau i gefnogi’ch lles yn ystod yr amser heriol hwn.

Adnoddau adfer ac ail-alluogi i gweithwyr proffesiynol perthynol i Iechyd a gweithwyr proffesiynol eraill

Mae Addysg Iechyd Lloegr (HEE) wedi casglu adnoddau at ei gilydd i gefnogi Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio ym maes gofal sylfaenol a chymunedol.

Gall yr adnoddau hyn helpu i ddiwallu anghenion adfer ac ail-alluogi pawb yn ystod pandemig COVID-19.

Mae HEE wedi cytuno'n garedig i rannu'r adnoddau hyn gyda'r holl weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.

Cliciwch ar y ddolen yma  a phwyswch barhau i gyrchu'r adnoddau hyn heb fod angen creu cyfrif.

Fferylliaeth

Rhaglenni hyfforddi ail-ardystio i dechnegwyr fferylliaeth

Bydd rhaglenni hyfforddi newydd, wedi’i lansio gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yn galluogi technegwyr fferylliaeth yng Nghymru i ail-ardystio fel Technegwyr Fferylliaeth Gwirio Achrededig (ACPT), ail-ardystio mewn Rheoli Meddygaeth a hyfforddi mewn gweinyddu meddyginiaeth i gefnogi’r gweithlu yn y frwydr yn erbyn COVID-19.

Bydd y rhaglenni newydd yn helpu technegwyr fferylliaeth sydd yn dychwelyd i ymarfer yn ystod y pandemig COVID-19, a’r rheini sydd yn trosglwyddo ei sgiliau rhwng lleoliadau Gwaith, i adnewyddu ei sgiliau, gwybodaeth a’i ddealltwriaeth.

Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod hyfforddiant 'Therapi Ocsigen' a 'Gweinyddu Meddyginiaeth' AaGIC bellach yn fyw ar ein gwefan. Mae'r hyfforddiant newydd hwn yn caniatáu i'r system iechyd a gofal cymdeithasol addasu'n gyflym i'r heriau newydd o ganlyniad i bandemig covid-19.

Deintyddol

Hyfforddiant ar-lein ar gyfer gweithwyr deintyddol proffesiynol

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Llywodraeth Cymru i ddarparu hyfforddiant ar-lein i weithwyr deintyddol proffesiynol sy'n cael eu hadleoli o fewn byrddau iechyd lleol i gefnogi'r pandemig COVID-19. Mae rhagor o wybodaeth am adleoli deintyddol i'w gweld yn y ddogfen hon.

  • Gall ymarferwyr deintyddol cyffredinol, hyfforddeion sylfaen ddeintyddol, nyrsys deintyddol, hylenyddion deintyddol, therapyddion deintyddol gael mynediad i'r hyfforddiant yma.
  • Gall deintyddion sydd â phrofiad ysbyty cyfredol neu ddiweddar (hyfforddai craidd deintyddol neu'n uwch) gael mynediad i'r hyfforddiant yma.