Bydd rhaglen hyfforddi newydd, wedi’i lansio gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yn galluogi technegwyr fferylliaeth yng Nghymru i ail-ardystio fel Technegwyr Fferylliaeth Gwirio Achrededig (ACPT) i gefnogi’r gweithlu yn y frwydr yn erbyn COVID-19.
Bydd y rhaglen newydd yn helpu technegwyr fferylliaeth sydd yn dychwelyd i ymarfer yn ystod y pandemig COVID-19, a’r rheini sydd yn trosglwyddo ei sgiliau rhwng lleoliadau gwaith, i adnewyddu ei sgiliau, gwybodaeth a’i ddealltwriaeth. Bydd hyn yn caniatau iddynt gwblhau gwiriadau cywirdeb terfynol o eitemau a ddosbarthwyd o fewn gwasanaethau cleifion a gwirio cyn ac yn y proses o fewn gwasanaethau technegol.
Ble mae technegwyr fferylliaeth yn gallu cwblhau y tasgau yma, mae fferyllwyr yn gallu defnyddio ei sgiliau a gwybodaeth mewn meysydd ymarfer arall.
Gofynion mynediad
Gall y rhaglen ddim ond cael ei ddefnyddio os yw tystysgrif ACPT wedi cael ei ddyfarnu yn y maes mae’r technegwr fferylliaeth eisiau ymarfer fel ACPT e.e. wasanaethau cleifion neu wasanaethau technegol.
Sut i gael mynediad at yr hyfforddiant
Cam 1: Ewch i wefan Fferylliaeth AaGIC i gofrestru a chreu cyfrif.
Cam 2: Ar ôl derbyn e-bost yn eich croeso, cysylltwch â HEIW.pharmacy@wales.nhs.uk ac gofynnwch am e-ddysgu 20E12.
Tip: cofiwch i edrych yn eich ffolder sbam yn eich cyfrif e-bost.