Gall staff nawr ymweld â’r ‘Porth Covid-19 Lles Staff GIG Cymru’ sy’n darparu adnoddau iechyd a lles i gefnogi staff yn ystod yr adeg anodd hon.
Gellir gweld canllawiau Offer Amddiffyn Personol (PPE) ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a dolenni cysylltiedig yma.
Y canllawiau diweddaraf i hyfforddwyr, addysgwyr a chyflogwyr meddygol, deintyddol a fferylliaeth mewn ymateb i COVID-19. Sicrhewch eich bod yn edrych ar y dogfennau diweddaraf. Bydd dogfennau nad ydynt bellach yn ddilys yn cael eu marcio fel rhai 'wedi'u harchifo' ond maent ar gael o hyd er gwybodaeth.
Date | Details |
---|---|
Cyffredinol | |
02/09/2021 | Dychwelyd ar ôl teithio i wledydd rhestr oren: canllawiau i staff iechyd a gofal cymdeithasol |
12/03/2020 | Rydym wedi cyhoeddi canllawiau gweithredol i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ar symud hyfforddeion meddygol, deintyddol a fferyllol i gefnogi gwasanaethau a gofal cleifion yn ystod yr achosion hyn. Anfonwyd copi o'r canllawiau hyn at yr hyfforddeion hefyd |
03/03/2020 | Mae rheoleiddwyr eisoes wedi cyhoeddi canllawiau i weithwyr iechyd a gofal proffesiynol drwy'r cyngor proffesiynau iechyd a gofal. |
Meddygol | |
30/09/2022 |
DATGANIAD SWYDD: Teitl: Datganiad ar randdirymiadau parhaus mewn addysg a hyfforddiant meddygol |
18/01/2021 | Gyda'n cydweithwyr o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, AaGIC a NIMDTA) rydym wedi cyhoeddi diweddariad recriwtio arbenigedd 2021 ar ryddhau ymgeiswyr a meddygon mewn hyfforddiant ôl-raddedig ar gyfer recriwtio ac asesu. [wedi'u harchifo] |
11/01/2021 | Mwy o wybodaeth ynghylch ymestyn y cyfnod gwerthuso ‘cymeradwy a gollwyd’ a dolenni i wybodaeth bellach ar arfarnu yng nghyd-destun y pandemig. [wedi'u harchifo] |
08/01/2021 | Gyda'n cydweithwyr o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, NIMDTA a AaGIC) rydym wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer recriwtio arbenigedd 2021. [wedi'u harchifo] |
21/12/2020 | Cyhoeddwyd egwyddorion arweiniol diwygiedig gan AaGIC ar gefnogi adleoli hyfforddeion wrth reoli ymchwyddiadau Covid lleol, rhanbarthol neu genedlaethol. [wedi'u harchifo] |
08/12/2020 |
Llythyr gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol at Fwrdd Rhaglen Sylfaen y DU ynghylch parhad rhanddirymiad dros dro o gwricwlwm y Rhaglen Sylfaen ar gyfer dilyniant boddhaol yn ARCP. [wedi'u harchifo] Canllawiau Adolygiad Blynyddol Rhaglen Sylfaen Sefydliad y DU ar Ddatblygiad Cymhwysedd (ARCP) - pob hyfforddai (tan fis Medi 2021). [wedi'u harchifo] |
24/11/2020 | Diweddariad gan y pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW ac NIMCYD) ar galluogi dilyniant yn ARCP mewn ymateb i COVID-19. [wedi'u harchifo] |
06/11/2020 | Mewn cydweithrediad â Phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe ac Iechyd Cyhoeddus, mae AaGIC wedi cynhyrchu arweiniad i drefnwyr sy'n ymwneud â darparu digwyddiadau hyfforddi wyneb yn wyneb. Mae'r canllaw yn darparu fframwaith i hyfforddwyr, gan sicrhau bod hyfforddiant wyneb yn wyneb yn cael ei ddarparu mewn ffordd ddiogel a chyson, gan leihau'r risgiau o drosglwyddo COVID a chefnogi hyfforddeion a myfyrwyr i symud ymlaen â'u hyfforddiant. Dyma'r rhestr wirio ar gyfer trefnwyr hyfforddiant. [wedi'u harchifo] |
24/09/2020 | Gyda'n cydweithwyr o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW ac NIMCYD) rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar cynnal egwyddorion addysg a hyfforddiant meddygol Ôl-raddedig ar sefydliadau addysgol yn ystod ymchwydd pandemig. [wedi'u harchifo] |
18/09/2020 | Datganiad sefyllfa gan Llywodraeth Cymru ac AaGIC yn cadarnhau bod gan fyfyrwyr meddygol, nyrsio, bydwreigiaeth, proffesiynau perthynol i iechyd a gwyddor gofal iechyd statws gweithiwr allweddol parhaus wrth gyflawni lleoliadau ymarfer fel rhan o'u rhaglen ddysgu. [wedi'u harchifo] |
04/06/2020 | Ynghyd â Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe, mae Addysg a Iechyd Gwella Cymru wedi cyhoeddi egwyddorion ar gyfer ailgychwyn addysg feddygol. [wedi'u harchifo] |
29/04/2020 | Gyda'n cydweithwyr o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW ac NIMCYD) rydym wedi cyhoeddi llythyr i hyfforddeion a hyfforddwyr meddygaeth teulu ar ein hymdrechion i fynd i'r afael â'r materion cyfredol i hyfforddeion yn eu blwyddyn olaf o hyfforddiant arbenigedd MT. [wedi'u harchifo] |
20/04/2020 | Canllawiau gan y pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW ac NIMCYD) ar galluogi dilyniant yn ARCP mewn ymateb i COVID-19. [wedi'u harchifo] |
08/04/2020 | Canllawiau gan y pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW ac NIMCYD) - 'Cefnogi yr ymateb i COVID-19: Cynlluniau ar gyfer Rheolaeth Cylchdroadau Hyfforddiant Meddygol' - yn fis Mai, Mehefin a Gorffennaf. [wedi'u harchifo] |
06/04/2020 | Mae cyfarwyddwr meddygol o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW ac NIMCYD) wedi cyhoeddi llythyr i hyfforddeion a hyfforddai meddygol ynghyd â chanllawiau ar reoli’r proses ARCP. [wedi'u harchifo] |
03/04/2020 | Dyma'r cwestiynau cyffredin diweddaraf i hyfforddwyr meddygol mewn gofal eilaidd. [wedi'u harchifo] |
01/04/2020 | Datganiad a gyhoeddwyd gan y cyd-bwyllgor ar hyfforddiant llawfeddygol (JCST) ar COVID-19 ar dilyniant hyfforddeion yn 2020. [wedi'u harchifo] |
01/04/2020 | Diweddariad a anfonwyd gan yr Uned Cymorth Ailddilysu yn AaGIC at bob meddyg teulu yng Nghymru trwy MARS ynghylch arfarniadau meddygol ac ailddilysu. [wedi'u harchifo] |
30/03/2020 | Gyda'n cydweithwyr o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW a NIMDTA) gwnaethom gyhoeddi'r cynlluniau hyn ar gyfer recriwtio arbenigedd. [wedi'u harchifo] |
25/03/2020 | Datganiad ar y cyd gan Adrannau Iechyd y DU, y Cyngor Meddygol Cyffredinol, Addysg Iechyd Lloegr, Addysg GIG yr Alban, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Asiantaeth Hyfforddiant Meddygol a Deintyddol Gogledd Iwerddon, a'r Cyngor Ysgolion Meddygol. Mae'n nodi'r dull gweithredu ar gyfer y DU gyfan rydym wedi cytuno i hwyluso'r cofrestriad dros dro cynnar fel meddygon o fyfyrwyr meddygol blwyddyn olaf addas ar ôl iddynt raddio, a'r cofrestriad llawn cynnar o feddygon Blwyddyn 1 Sylfaen addas. [wedi'u harchifo] |
19/03/2020 | Cyhoeddwyd canllawiau gyda'r tri chorff addysg statudol arall yn y DU, Academi'r Colegau Brenhinol Meddygol, y Cyngor Meddygol Cyffredinol a COPMED mewn perthynas ag arholiadau i feddygon dan hyfforddiant yn ystod achos COVID-19. [wedi'u harchifo] |
19/03/2020 | Canllawiau a gyhoeddwyd gyda'r tri chorff addysg statudol arall yn y DU ynghylch addasu'r asesiad o Ddilyniant yr Adolygiad Blynyddol o Gymhwysedd yn ystod achos COVID-19. [wedi'u harchifo] |
17/03/2020 | Oherwydd y datblygiadau diweddar mewn perthynas â phellterau cymdeithasol, mae penderfyniad wedi'i wneud gan y pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, AaGIC ac NIMCYD) i ganslo'r holl gyfweliadau recriwtio arbenigol wyneb yn wyneb ar unwaith.Ar gyfer yr holl recriwtio sydd i'w gynnal yng Nghymru, mae'r recriwtiwr arweiniol yn anfon llythyr yn uniongyrchol at ymgeiswyr. [wedi'u harchifo] |
16/03/2020 | Gyda'n cydweithwyr o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, AaGIC ac NIMCYD) a'r GMC fe wnaethom gyhoeddi'r cynlluniau hyn ar gyfer rheoli cylchdroadau hyfforddiant meddygol yn ystod cyfnod oedi'r argyfwng iechyd cyhoeddus presennol. Yn ogystal, rydym yn datblygu cwestiynau cyffredin i gefnogi hyfforddeion yn ystod y cyfnod hwn. [wedi'u harchifo] |
Deintyddol | |
12/21 | Asesiad Risg Llwybr Anadlol Rhagfyr 2021. |
21/12/2021 | COVID-19: infection prevention and control dental appendix - GOV.UK (www.gov.uk) COVID-19: Atal Heintiau ac atodiad deintyddol rheoli. |
11/11/2021 | 2021-11-11 - DCDO Letter - NHS Dentistry_ Recovery of Services Anfonwyd ar ran Warren Tolley, Dirprwy Brif Swyddog Deintyddol, Paul Brocklehurst, Dirprwy Brif Swyddog Deintyddol. Deintyddiaeth y GIG: Adfer Gwasanaethau. |
21/05/2021 | Rydym wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd ag Addysg Iechyd Lloegr (HEE) ac Asiantaeth Hyfforddiant Meddygol a Deintyddol Gogledd Iwerddon (NIMDTA) ynghylch recriwtio Hyfforddiant Sylfaenol Deintyddol 2020/21. |
06/11/2020 | Mewn cydweithrediad â Phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe ac Iechyd Cyhoeddus, mae AaGIC wedi cynhyrchu arweiniad i drefnwyr sy'n ymwneud â darparu digwyddiadau hyfforddi wyneb yn wyneb. Mae'r canllaw yn darparu fframwaith i hyfforddwyr, gan sicrhau bod hyfforddiant wyneb yn wyneb yn cael ei ddarparu mewn ffordd ddiogel a chyson, gan leihau'r risgiau o drosglwyddo COVID a chefnogi hyfforddeion a myfyrwyr i symud ymlaen â'u hyfforddiant. Dyma'r rhestr wirio ar gyfer trefnwyr hyfforddiant. |
28/09/2021 | Guidance for the Dental Management of Patients in Wales during the C-19 Pandemic Recovery Anfonwyd ar ran Warren Tolley - Dirprwy Brif Swyddog Deintyddol. Mae'r canllaw hwn yn disodli'r Weithdrefn Weithredu Safonol flaenorol (SOP). |
19/05/2020 |
wefan GIG 111 Cymru. Diweddarwyd y tudalennau hyn i adlewyrchu'r amgylchiadau presennol a darparu gwybodaeth ychwanegol ar sut i reoli cyflyrau deintyddol cyffredin gartref. Gall cleifion hefyd gael gafael ar gyngor ar hunanofal gan gynnwys sut i reoli problemau deintyddol gartref a phryd i gysylltu â phractisau deintyddol i gael cyngor ar wefan Gofal Sylfaenol Un. |
13/05/2020 | Gyda'n cydweithwyr o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW ac NIMCYD) rydym wedi cyhoeddi cyngor ARCP ar gyfer hyfforddeion arbenigol deintyddiaeth ynghyd â phroses apelio ARCP deintyddol a dogfen arall gyda chodau atodol canlyniad 10. |
12/05/2020 | Llythyr gan Richard Herbert, Deon Cyswllt AaGIC, yn diweddaru goruchwylwyr addysgol (ESs) ar y diweddaraf ynghylch y rhaglen hyfforddi sylfaen ddeintyddol mewn ymateb i COVID-19. |
27/04/2020 |
Mae AaGIC wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Llywodraeth Cymru i ddarparu hyfforddiant ar-lein i weithwyr deintyddol proffesiynol sy'n cael eu hadleoli o fewn byrddau iechyd lleol i gefnogi'r pandemig COVID-19. |
23/04/2020 | Mae llythr gan AaGIC yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi adolygu'r grant goruchwyliwr addysgol ar gyfer hyfforddwyr hyfforddiant sylfaen deintyddol a bydd yn aros ar 100%. |
22/04/2020 | Mae'r Prif Swyddog Deintyddol wedi cyhoeddi'r pecyn cymorth gwasanaethau deintyddol gofal sylfaenol COVID-19 a anfonwyd at dimau deintyddol ochr yn ochr â'r nodyn hwn. |
21/04/2020 | Diweddariad rhaglen hyfforddi sylfaen ddeintyddol gan HEIW mewn ymateb i COVID-19. |
20/04/2020 | Mae e-bost ynghylch recriwtio hyfforddiant craidd deintyddol cenedlaethol (DCT) 2020 yn amlinellu'r broses dewisiad wedi'i haddasu mewn ymateb i COVID-19, wedi'i anfon at bob ymgeisydd DCT. |
16/04/2020 | Llythyr oddi wrth Richard Herbert, Deon Cysylltiol, AaGIC ynghylch taliadau Hyfforddiant Sylfaen Deintyddol (DFT). Gellir gweld manylion addasiadau i daliadau DFT yn y llythyr hwn. |
14/04/2020 | Canllawiau ar ibuprofen a COVID-19 fel yr adolygwyd gan y Comisiwn Meddyginiaethau Dynol. |
02/04/2020 | Gohebiaeth gan AaGIC i ddeintyddion sylfaen a goruchwylwyr addysgol a anfonwyd ochr yn ochr â’r llythyr rhybudd coch a’r canllawiau cyfnod coch a gyhoeddwyd gan Llywodraeth Cymru ar 23 Mawrth 2020. |
31/03/2020 | E-bost a ddanfonwyd gan AaGIC at bob Hyfforddai Craidd Deintyddol, DCT a DCT TPDau am ceisiadau am Swyddi Hyfforddiant Craidd Deintyddol y DU 2020-21. |
27/03/2020 | Mae’r wybodaeth ganlynol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd yng Nghymru wedi’i hafnon at yr holl hyfforddeion Hyfforddiant Arbenigol Deintyddol, cyfarwyddwr rhaglenni hyfforddi a goruchwylwyr addysgol. |
24/03/2020 | Anfonwyd llythyr heddiw at Oruchwylwyr Addysg Ddeintyddol ynghylch y trefniadau ar gyfer Hyfforddiant Sylfaen Ddeintyddol mewn ymateb i COVID-19. |
23/03/2020 | Cyhoeddi datganiad ar y cyd ar drefniadau ar gyfer myfyrwyr proffesiynol ym maes gofal deintyddol a deintyddol a graddedigion diweddar, tra bod cyfyngiadau ar waith i reoli lledaeniad COVID-19. |
17/03/2020 | Gyda'r pedwar corff addysg statudol HEE, NES, AaGIC, NIMCYD, (SEBau) rydym wedi cyhoeddi canllawia i gyflogwyr gofal sylfaenol, hyfforddwyr a hyfforddeion ynghylch rheoli addysg a hyfforddiant deintyddol yn ystod yr argyfwng presennol ym maes iechyd y cyhoedd. |
Fferylliaeth | |
22/05/2020 | Datganiad gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC/HEIW) ar cofrestriad dros dro o Fferyllwyr Cyn Cofrestru 2019/20. |
15/04/2020 |
Mewn ymateb i COVID-19 a'r pwysau cynyddol mewn fferyllfeydd cymunedol ac ysbytai, mae AaGIC wedi cyflwyno hyblygrwydd i'r rhaglen hyfforddi Prentisiaeth Cyn-gofrestru Technegydd Fferyllfa Fodern. Cyflwynwyd hyn yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru i gynorthwyo hyfforddeion i aros yn eu rhaglen hyfforddi yn ystod y pandemig. Mae tîm fferylliaeth AaGIC yn cyfathrebu o bell gyda hyfforddeion yn unigol i sicrhau eu bod yn cael ei chefnogi yn effeithiol, yn cwrdd â’i anghenion penodol, i'w galluogi i barhau i symud ymlaen ar y rhaglen hyfforddi. |
06/04/2020 | Gallwch ddod o hyd i’r cwestiynau cyffredin diweddaraf wedi’i gyhoeddi gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) yma. |
31/03/2020 | Datganiad ar y cyd gan HEE, NES ac AaGIC hyfforddiant ac arholiadau fferyllwyr cyn-gofrestru yn ystod COVID-19. |
25/03/2020 | Mae Canllawiau ar gyfer Fferyllwyr a Thechnegwyr Fferyllol dan hyfforddiant cyn cofrestru wedi cael eu cyhoeddi heddiw i Prif Fferyllwyr, Fferylliaeth Gymunedol Cymru, hyfforddeion cyn-gofrestru, technegwyr fferyllol cyn-gofrestru, tiwtoriaid a chyflogwyr yng Nghymru. |
20/03/2020 |
Mae Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) yn cyhoeddi cofrestriad dros dro ar gyfer fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol sy'n dychwelyd yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn. Gellir gweld cyngor i'r rheini yng Nghymru yma: https://gov.wales/returning-pharmacists-guidance Am ddiweddariadau COVID19 rheolaidd gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol ewch i https://www.pharmacyregulation.org/contact-us/coronavirus-latest-updates |