Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen hyfforddi ail-ardystio rheoli meddygaeth wedi'i lansio i dechnegwyr fferylliaeth

Bydd rhaglen hyfforddi newydd, wedi’i lansio gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yn galluogi technegwyr fferylliaeth yng Nghymru i ail-ardystio yn rheoli meddygaeth i gefnogi’r gweithlu yn yr amser heriol hwn. 

Bydd y rhaglen newydd yn helpu technegwyr fferylliaeth sydd yn dychwelyd i ymarfer yn ystod y pandemig COVID-19, a’r rheini sydd yn trosglwyddo ei sgiliau rhwng lleoliadau gwaith, i adnewyddu ei sgiliau, gwybodaeth a’i ddealltwriaeth. 

Mae'r rhaglen hyfforddi yn cydnabod bod darparu mewn gwahanol sectorau/lleoliadau gofal yn amrywio ac nid yw'n ceisio rhagnodi un model sengl ar gyfer darparu rheoli meddyginiaethau. 

Gofynion mynediad 

Gall y rhaglen ddim ond cael ei ddefnyddio os yw tystysgrif rheoli meddygaeth wedi cael ei ddyfarnu, rhaid i’r dystysgrif nodi’r modiwlau mae technegwyr fferylliaeth am gael ei ail-ardystio ynddo.  

  • Cofrestriad cyfredol gyda’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) 

  • Wedi cwblhau rhaglen rheoli meddygaeth gydnabyddedig o’r blaen 

  • Goruchwyliwr Addysgol (ES) a all fod yn fferyllydd neu’n dechnegydd fferylliaeth rheoli meddygaeth achrededig 

Sut i gael mynediad at yr hyfforddiant 

Cam 1: Ewch i wefan Fferylliaeth AaGIC i gofrestru a chreu cyfrif. 
Cam 2: Ar ôl derbyn e-bost yn eich croeso, cysylltwch â HEIW.pharmacy@wales.nhs.uk ac gofynnwch am e-ddysgu 20E14. 
Tip: cofiwch i edrych yn eich ffolder sbam yn eich cyfrif e-bost.