Neidio i'r prif gynnwy

Addysgwyr a hyfforddwyr meddygol, deintyddol a fferylliaeth

Young nurse smiling

Gall staff nawr ymweld â’r ‘Porth Covid-19 Lles Staff GIG Cymru’ sy’n darparu adnoddau iechyd a lles i gefnogi staff yn ystod yr adeg anodd hon.

Gellir gweld canllawiau Offer Amddiffyn Personol (PPE) ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a dolenni cysylltiedig yma.

Y canllawiau diweddaraf i hyfforddwyr, addysgwyr a chyflogwyr meddygol, deintyddol a fferylliaeth mewn ymateb i COVID-19. Sicrhewch eich bod yn edrych ar y dogfennau diweddaraf. Bydd dogfennau nad ydynt bellach yn ddilys yn cael eu marcio fel rhai 'wedi'u harchifo' ond maent ar gael o hyd er gwybodaeth.

Date Details
Cyffredinol
02/09/2021 Dychwelyd ar ôl teithio i wledydd rhestr oren: canllawiau i staff iechyd a gofal cymdeithasol
12/03/2020 Rydym wedi cyhoeddi canllawiau gweithredol i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ar symud hyfforddeion meddygol, deintyddol a fferyllol i gefnogi gwasanaethau a gofal cleifion yn ystod yr achosion hyn. Anfonwyd copi o'r canllawiau hyn at yr hyfforddeion hefyd
03/03/2020 Mae rheoleiddwyr eisoes wedi cyhoeddi canllawiau i weithwyr iechyd a gofal proffesiynol drwy'r cyngor proffesiynau iechyd a gofal.
Meddygol  
30/09/2022

DATGANIAD SWYDD: Teitl: Datganiad ar randdirymiadau parhaus mewn addysg a hyfforddiant meddygol
Cytunwyd gan yr Athro Push Mangat Cyfarwyddwr Meddygol, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

18/01/2021 Gyda'n cydweithwyr o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, AaGIC a NIMDTA) rydym wedi cyhoeddi diweddariad recriwtio arbenigedd 2021 ar ryddhau ymgeiswyr a meddygon mewn hyfforddiant ôl-raddedig ar gyfer recriwtio ac asesu. [wedi'u harchifo]
11/01/2021 Mwy o wybodaeth ynghylch ymestyn y cyfnod gwerthuso ‘cymeradwy a gollwyd’ a dolenni i wybodaeth bellach ar arfarnu yng nghyd-destun y pandemig. [wedi'u harchifo]
08/01/2021 Gyda'n cydweithwyr o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, NIMDTA a AaGIC) rydym wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer recriwtio arbenigedd 2021. [wedi'u harchifo]
21/12/2020 Cyhoeddwyd egwyddorion arweiniol diwygiedig gan AaGIC ar gefnogi adleoli hyfforddeion wrth reoli ymchwyddiadau Covid lleol, rhanbarthol neu genedlaethol. [wedi'u harchifo]
08/12/2020

Llythyr gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol at Fwrdd Rhaglen Sylfaen y DU ynghylch parhad rhanddirymiad dros dro o gwricwlwm y Rhaglen Sylfaen ar gyfer dilyniant boddhaol yn ARCP. [wedi'u harchifo]

Canllawiau Adolygiad Blynyddol Rhaglen Sylfaen Sefydliad y DU ar Ddatblygiad Cymhwysedd (ARCP) - pob hyfforddai (tan fis Medi 2021). [wedi'u harchifo]

24/11/2020 Diweddariad gan y pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW ac NIMCYD) ar galluogi dilyniant yn ARCP mewn ymateb i COVID-19. [wedi'u harchifo]
06/11/2020 Mewn cydweithrediad â Phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe ac Iechyd Cyhoeddus, mae AaGIC wedi cynhyrchu arweiniad i drefnwyr sy'n ymwneud â darparu digwyddiadau hyfforddi wyneb yn wyneb. Mae'r canllaw yn darparu fframwaith i hyfforddwyr, gan sicrhau bod hyfforddiant wyneb yn wyneb yn cael ei ddarparu mewn ffordd ddiogel a chyson, gan leihau'r risgiau o drosglwyddo COVID a chefnogi hyfforddeion a myfyrwyr i symud ymlaen â'u hyfforddiant. Dyma'r rhestr wirio ar gyfer trefnwyr hyfforddiant. [wedi'u harchifo]
24/09/2020 Gyda'n cydweithwyr o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW ac NIMCYD) rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar cynnal egwyddorion addysg a hyfforddiant meddygol Ôl-raddedig ar sefydliadau addysgol yn ystod ymchwydd pandemig. [wedi'u harchifo]
18/09/2020 Datganiad sefyllfa gan Llywodraeth Cymru ac AaGIC yn cadarnhau bod gan fyfyrwyr meddygol, nyrsio, bydwreigiaeth, proffesiynau perthynol i iechyd a gwyddor gofal iechyd statws gweithiwr allweddol parhaus wrth gyflawni lleoliadau ymarfer fel rhan o'u rhaglen ddysgu. [wedi'u harchifo]
04/06/2020 Ynghyd â Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe, mae Addysg a Iechyd Gwella Cymru wedi cyhoeddi egwyddorion ar gyfer ailgychwyn addysg feddygol. [wedi'u harchifo]
29/04/2020 Gyda'n cydweithwyr o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW ac NIMCYD) rydym wedi cyhoeddi llythyr i hyfforddeion a hyfforddwyr meddygaeth teulu ar ein hymdrechion i fynd i'r afael â'r materion cyfredol i hyfforddeion yn eu blwyddyn olaf o hyfforddiant arbenigedd MT. [wedi'u harchifo]
20/04/2020 Canllawiau gan y pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW ac NIMCYD) ar galluogi dilyniant yn ARCP mewn ymateb i COVID-19. [wedi'u harchifo]
08/04/2020 Canllawiau gan y pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW ac NIMCYD) - 'Cefnogi yr ymateb i COVID-19: Cynlluniau ar gyfer Rheolaeth Cylchdroadau Hyfforddiant Meddygol' - yn fis Mai, Mehefin a Gorffennaf. [wedi'u harchifo]
06/04/2020 Mae cyfarwyddwr meddygol o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW ac NIMCYD) wedi cyhoeddi llythyr i hyfforddeion a hyfforddai meddygol ynghyd â chanllawiau ar reoli’r proses ARCP. [wedi'u harchifo]
03/04/2020 Dyma'r cwestiynau cyffredin diweddaraf i hyfforddwyr meddygol mewn gofal eilaidd. [wedi'u harchifo]
01/04/2020 Datganiad a gyhoeddwyd gan y cyd-bwyllgor ar hyfforddiant llawfeddygol (JCST) ar COVID-19 ar dilyniant hyfforddeion yn 2020. [wedi'u harchifo]
01/04/2020 Diweddariad a anfonwyd gan yr Uned Cymorth Ailddilysu yn AaGIC at bob meddyg teulu yng Nghymru trwy MARS ynghylch arfarniadau meddygol ac ailddilysu. [wedi'u harchifo]
30/03/2020 Gyda'n cydweithwyr o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW a NIMDTA) gwnaethom gyhoeddi'r cynlluniau hyn ar gyfer recriwtio arbenigedd. [wedi'u harchifo]
25/03/2020 Datganiad ar y cyd gan Adrannau Iechyd y DU, y Cyngor Meddygol Cyffredinol, Addysg Iechyd Lloegr, Addysg GIG yr Alban, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Asiantaeth Hyfforddiant Meddygol a Deintyddol Gogledd Iwerddon, a'r Cyngor Ysgolion Meddygol.  Mae'n nodi'r dull gweithredu ar gyfer y DU gyfan rydym wedi cytuno i hwyluso'r cofrestriad dros dro cynnar fel meddygon o fyfyrwyr meddygol blwyddyn olaf addas ar ôl iddynt raddio, a'r cofrestriad llawn cynnar o feddygon Blwyddyn 1 Sylfaen addas. [wedi'u harchifo]
19/03/2020 Cyhoeddwyd canllawiau  gyda'r tri chorff addysg statudol arall yn y DU, Academi'r Colegau Brenhinol Meddygol, y Cyngor Meddygol Cyffredinol a COPMED mewn perthynas ag arholiadau i feddygon dan hyfforddiant yn ystod achos COVID-19. [wedi'u harchifo]
19/03/2020 Canllawiau a gyhoeddwyd gyda'r tri chorff addysg statudol arall yn y DU ynghylch addasu'r asesiad o Ddilyniant yr Adolygiad Blynyddol o Gymhwysedd yn ystod achos COVID-19. [wedi'u harchifo]
17/03/2020 Oherwydd y datblygiadau diweddar mewn perthynas â phellterau cymdeithasol, mae penderfyniad wedi'i wneud gan y pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, AaGIC ac NIMCYD) i ganslo'r holl gyfweliadau recriwtio arbenigol wyneb yn wyneb ar unwaith.Ar gyfer yr holl recriwtio sydd i'w gynnal yng Nghymru, mae'r recriwtiwr arweiniol yn anfon llythyr yn uniongyrchol at ymgeiswyr. [wedi'u harchifo]
16/03/2020 Gyda'n cydweithwyr o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, AaGIC ac NIMCYD) a'r GMC fe wnaethom gyhoeddi'r cynlluniau hyn ar gyfer rheoli cylchdroadau hyfforddiant meddygol yn ystod cyfnod oedi'r argyfwng iechyd cyhoeddus presennol. Yn ogystal, rydym yn datblygu cwestiynau cyffredin i gefnogi hyfforddeion yn ystod y cyfnod hwn. [wedi'u harchifo]
Deintyddol  
12/21 Asesiad Risg Llwybr Anadlol Rhagfyr 2021.
21/12/2021 COVID-19: infection prevention and control dental appendix - GOV.UK (www.gov.uk) COVID-19: Atal Heintiau ac atodiad deintyddol rheoli. 
11/11/2021 2021-11-11 - DCDO Letter - NHS Dentistry_ Recovery of Services Anfonwyd ar ran Warren Tolley, Dirprwy Brif Swyddog Deintyddol, Paul Brocklehurst, Dirprwy Brif Swyddog Deintyddol. Deintyddiaeth y GIG: Adfer Gwasanaethau.
21/05/2021 Rydym wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd ag Addysg Iechyd Lloegr (HEE) ac Asiantaeth Hyfforddiant Meddygol a Deintyddol Gogledd Iwerddon (NIMDTA) ynghylch recriwtio Hyfforddiant Sylfaenol Deintyddol 2020/21.
06/11/2020 Mewn cydweithrediad â Phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe ac Iechyd Cyhoeddus, mae AaGIC wedi cynhyrchu arweiniad i drefnwyr sy'n ymwneud â darparu digwyddiadau hyfforddi wyneb yn wyneb. Mae'r canllaw yn darparu fframwaith i hyfforddwyr, gan sicrhau bod hyfforddiant wyneb yn wyneb yn cael ei ddarparu mewn ffordd ddiogel a chyson, gan leihau'r risgiau o drosglwyddo COVID a chefnogi hyfforddeion a myfyrwyr i symud ymlaen â'u hyfforddiant. Dyma'r rhestr wirio ar gyfer trefnwyr hyfforddiant.
28/09/2021 Guidance for the Dental Management of Patients in Wales during the C-19 Pandemic Recovery  Anfonwyd ar ran Warren Tolley - Dirprwy Brif Swyddog Deintyddol. Mae'r canllaw hwn yn disodli'r Weithdrefn Weithredu Safonol flaenorol (SOP).
19/05/2020

wefan GIG 111 Cymru. Diweddarwyd y tudalennau hyn i adlewyrchu'r amgylchiadau presennol a darparu gwybodaeth ychwanegol ar sut i reoli cyflyrau deintyddol cyffredin gartref.  

Gall cleifion hefyd gael gafael ar gyngor ar hunanofal gan gynnwys sut i reoli problemau deintyddol gartref a phryd i gysylltu â phractisau deintyddol i gael cyngor ar wefan Gofal Sylfaenol Un.

13/05/2020 Gyda'n cydweithwyr o'r pedwar corff addysg statudol (HEE, NES, HEIW ac NIMCYD) rydym wedi cyhoeddi cyngor ARCP ar gyfer hyfforddeion arbenigol deintyddiaeth ynghyd â phroses apelio ARCP deintyddol a dogfen arall gyda chodau atodol canlyniad 10.
12/05/2020 Llythyr gan Richard Herbert, Deon Cyswllt AaGIC, yn diweddaru goruchwylwyr addysgol  (ESs) ar y diweddaraf ynghylch y rhaglen hyfforddi sylfaen ddeintyddol mewn ymateb i COVID-19.
27/04/2020

Mae AaGIC wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Llywodraeth Cymru i ddarparu hyfforddiant ar-lein i weithwyr deintyddol proffesiynol sy'n cael eu hadleoli o fewn byrddau iechyd lleol i gefnogi'r pandemig COVID-19.

Gall ymarferwyr deintyddol cyffredinol, hyfforddeion sylfaen ddeintyddol, nyrsys deintyddol, hylenyddion deintyddol, therapyddion deintyddol gael mynediad i'r hyfforddiant yma.

Gall deintyddion sydd â phrofiad ysbyty cyfredol neu ddiweddar (hyfforddai craidd deintyddol neu'n uwch) gael mynediad i'r hyfforddiant yma.

23/04/2020 Mae llythr gan AaGIC yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi adolygu'r grant goruchwyliwr addysgol ar gyfer hyfforddwyr hyfforddiant sylfaen deintyddol a bydd yn aros ar 100%.
22/04/2020 Mae'r Prif Swyddog Deintyddol wedi cyhoeddi'r pecyn cymorth gwasanaethau deintyddol gofal sylfaenol COVID-19 a anfonwyd at dimau deintyddol ochr yn ochr â'r nodyn hwn.
21/04/2020 Diweddariad rhaglen hyfforddi sylfaen ddeintyddol gan HEIW mewn ymateb i COVID-19.
20/04/2020 Mae e-bost ynghylch recriwtio hyfforddiant craidd deintyddol cenedlaethol (DCT) 2020 yn amlinellu'r broses dewisiad wedi'i haddasu mewn ymateb i COVID-19, wedi'i anfon at bob ymgeisydd DCT.
16/04/2020 Llythyr oddi wrth Richard Herbert, Deon Cysylltiol, AaGIC ynghylch taliadau Hyfforddiant Sylfaen Deintyddol (DFT). Gellir gweld manylion addasiadau i daliadau DFT yn y llythyr hwn.
14/04/2020 Canllawiau ar ibuprofen a COVID-19 fel yr adolygwyd gan y Comisiwn Meddyginiaethau Dynol.
02/04/2020 Gohebiaeth gan AaGIC i ddeintyddion sylfaen a goruchwylwyr addysgol a anfonwyd ochr yn ochr â’r llythyr rhybudd coch a’r canllawiau cyfnod coch a gyhoeddwyd gan Llywodraeth Cymru ar 23 Mawrth 2020.
31/03/2020 E-bost a ddanfonwyd gan AaGIC at bob Hyfforddai Craidd Deintyddol, DCT a DCT TPDau am ceisiadau am Swyddi Hyfforddiant Craidd Deintyddol y DU 2020-21.
27/03/2020 Mae’r wybodaeth ganlynol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd yng Nghymru wedi’i hafnon at yr holl hyfforddeion Hyfforddiant Arbenigol Deintyddol, cyfarwyddwr rhaglenni hyfforddi a goruchwylwyr addysgol.
24/03/2020 Anfonwyd llythyr heddiw at Oruchwylwyr Addysg Ddeintyddol ynghylch y trefniadau ar gyfer Hyfforddiant Sylfaen Ddeintyddol mewn ymateb i COVID-19.
23/03/2020 Cyhoeddi datganiad ar y cyd ar drefniadau ar gyfer myfyrwyr proffesiynol ym maes gofal deintyddol a deintyddol a graddedigion diweddar, tra bod cyfyngiadau ar waith i reoli lledaeniad COVID-19.
17/03/2020 Gyda'r pedwar corff addysg statudol HEE, NES, AaGIC, NIMCYD, (SEBau) rydym wedi cyhoeddi canllawia i gyflogwyr gofal sylfaenol, hyfforddwyr a hyfforddeion ynghylch rheoli addysg a hyfforddiant deintyddol yn ystod yr argyfwng presennol ym maes iechyd y cyhoedd.
Fferylliaeth
22/05/2020 Datganiad gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC/HEIW) ar cofrestriad dros dro o Fferyllwyr Cyn Cofrestru 2019/20.
15/04/2020

Mewn ymateb i COVID-19 a'r pwysau cynyddol mewn fferyllfeydd cymunedol ac ysbytai, mae AaGIC wedi cyflwyno hyblygrwydd i'r rhaglen hyfforddi Prentisiaeth Cyn-gofrestru Technegydd Fferyllfa Fodern. Cyflwynwyd hyn yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru i gynorthwyo hyfforddeion i aros yn eu rhaglen hyfforddi yn ystod y pandemig.

Mae tîm fferylliaeth AaGIC yn cyfathrebu o bell gyda hyfforddeion yn unigol i sicrhau eu bod yn cael ei chefnogi yn effeithiol, yn cwrdd â’i anghenion penodol, i'w galluogi i barhau i symud ymlaen ar y rhaglen hyfforddi.

06/04/2020 Gallwch ddod o hyd i’r cwestiynau cyffredin diweddaraf wedi’i gyhoeddi gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) yma.
31/03/2020 Datganiad ar y cyd gan HEE, NES ac AaGIC hyfforddiant ac arholiadau fferyllwyr cyn-gofrestru yn ystod COVID-19.
25/03/2020 Mae Canllawiau ar gyfer Fferyllwyr a Thechnegwyr Fferyllol dan hyfforddiant cyn cofrestru wedi cael eu cyhoeddi heddiw i Prif Fferyllwyr, Fferylliaeth Gymunedol Cymru, hyfforddeion cyn-gofrestru, technegwyr fferyllol cyn-gofrestru, tiwtoriaid a chyflogwyr yng Nghymru.
20/03/2020

Mae Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) yn cyhoeddi cofrestriad dros dro ar gyfer fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol sy'n dychwelyd yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn. Gellir gweld cyngor i'r rheini yng Nghymru yma: https://gov.wales/returning-pharmacists-guidance

Am ddiweddariadau COVID19 rheolaidd gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol ewch i https://www.pharmacyregulation.org/contact-us/coronavirus-latest-updates