Neidio i'r prif gynnwy

Trosglwyddiadau o fewn deoniaeth

Itinerary and two markers

Mae’r broses drosglwyddo o fewn deoniaeth (IDT) ar waith er mwyn cefnogi meddygon teulu dan hyfforddiant sydd wedi profi newid sylweddol a pharhaus na ragwelwyd i’w hamgylchiadau ers dechrau ar eu rhaglen hyfforddiant presennol yng Nghymru.

Dylai newid sylweddol a pharhaus na ragwelwyd i amgylchiadau personol fod yn berthnasol i:

  • Anabledd personol yn ôl diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010 neu
  • Cyfrifoldebau gofal neu
  • Cyfrifoldebau rhiantu neu
  • A committed relationship

Dylid cydnabod nad yw IDTau yn hawl. Byddant yn dibynnu ar fodloni’r meini prawf cymhwysedd a’r gofynion tystiolaeth, a lleoedd gwag yn bod ar gael ar y cynllun (neu’r cynlluniau) y mae hyfforddeion yn gwneud cais i symud atynt.

Cyn ymgeisio:

Bydd y ffenest ymgeisio ar gyfer trosglwyddiad Awst 2023 yn agor ar y 5eg o Chwefror 2024 a bu’n cau ar y 4eg o Fawrth 2024.

Bydd y ffenest ymgeisio ar gyfer trosglwyddiad Chwefror 2024 yn agor ar y 5eg o Awst 2024 a bu’n cau ar y 6fed o Fedi 2024.

Rhaid i hyfforddeion drafod trefniadau cymorth amgen gyda’u Cyfarwyddwyr Rhaglen cyn gwneud cais am IDT. Ar ôl ystyried yn llawn yr opsiynau amgen, bydd hyfforddeion yn gallu gwneud cais.

Rhaid i hyfforddeion ddangos bod newid sylweddol a pharhaus i’w hamgylchiadau personol, yn unol â’r uchod, na fyddai modd ei ragweld ar adeg dechrau ar y rhaglen hyfforddiant presennol yng Nghymru.

Rhaid i’r newidiadau i amgylchiadau personol fod wedi digwydd cyn gwneud cais, a does dim modd cyflwyno cais ar sail digwyddiadau a ragwelir yn y dyfodol.

Meini prawf ar gyfer newid i amgylchiadau

Maen prawf 1 – Mae’r hyfforddai wedi datblygu anabledd yn ôl diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010 sydd angen triniaeth, lle mae’r driniaeth, gofal neu ofynion cymdeithasol ond yn gallu cael eu cyflawni yn yr ardal ddaearyddol y mae’r hyfforddai wedi cyflwyno cais i drosglwyddo iddi. Dylai hyn fod wedi’i gadarnhau mewn adroddiad gan eu Meddyg Iechyd Galwedigaethol, MT neu arbenigwr meddygol arall.

Maen Prawf 2 – Mae’r hyfforddai yn brif ofalwr rhywun anabl yn ôl diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010, y mae disgwyl iddo fod yn bartner, brawd neu chwaer, rhiant neu blentyn, ac mae’r cyfrifoldebau hyn wedi newid yn barhaus ac yn sylweddol, gan arwain at angen symud lleoliad ers dechrau’r rhaglen hyfforddiant MT yng Nghymru.

Maen Prawf 3 – – Mae’r hyfforddai yn rhiant neu’n warcheidwad cyfreithiol plentyn (neu blant) dan 18 oed sy’n byw’n barhaus gydag ef/hi, y mae wedi profi newid sylweddol a pharhaus i’w gyfrifoldebau gofal, gan arwain at angen trosglwyddo.

Maen Prawf 4 – Mae’r hyfforddai wedi profi newid sylweddol a pharhaus i’w amgylchiadau personol oherwydd perthynas, na fyddai wedi’i ragweld ar adeg penodiad i’r rhaglen hyfforddiant MT presennol yng Nghymru, gan arwain at angen trosglwyddo.

Cymhwysedd

  1. Rhaid i’r hyfforddai fod wedi profi newid sylweddol a pharhaus i’w amgylchiadau, yn ôl y meini prawf uchod, ar ôl dechrau ar y rhaglen hyfforddiant MT yng Nghymru.
  2. Dylai hyfforddeion fod ar y rhaglen hyfforddiant presennol yng Nghymru am o leiaf 12 mis ar adeg y trosglwyddiad arfaethedig.
  3. Bydd ceisiadau IDT yn amodol ar yr hyfforddai’n cyflawni Deilliant 1 ARCP yn foddhaol.
  4. Dylai hyfforddeion gadarnhau hefyd nad oes unrhyw beth sy’n peri pryder all fod wedi’i amlygu drwy ARCP y prosesau lleol.
  5. Er mwyn bod yn gymwys i wneud cais am drosglwyddiad, rhaid i hyfforddeion gyflwyno’r dystiolaeth orfodol i gefnogi eu cais fel y’i nodir yn yr adran dogfennau ategol isod.

Dogfennau ategol

Bydd angen i hyfforddeion sy’n gwneud cais am IDT lenwi’r ffurflen gais, sy’n nodi’n glir y newid sylweddol a pharhaus na ragwelwyd i’w hamgylchiadau personol sydd wedi digwydd ers iddynt ddechrau yn yr hyfforddiant.

Yn ogystal, bydd angen i hyfforddeion gyflwyno tystiolaeth i gefnogi eu cais cyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau (manylion llawn isod).

Mae angen i bob hyfforddai gyflwyno copi o’u ffurflen ddeilliannau ARCP diweddaraf.

Yn dibynnu ar y maen prawf sy’n berthnasol i gais hyfforddai, mae hefyd angen cyflwyno dogfennau ategol fel tystiolaeth ofynnol. Wele isod rhestr o’r dogfennau sydd eu hangen ar gyfer pob maen prawf.

Tystiolaeth i gefnogi maen prawf 1 – ‘dogfen ategol A’

Gallwch ddod o hyd i ddogfen ategol A yn yr adran ffeiliau, a rhaid ei chyflwyno gyda chais am IDT dan Faen Prawf 1 (Anabledd Personol). Ni fydd yn bosib derbyn dogfennau amgen yn lle ‘dogfen ategol A’.

Rhaid i hyfforddai, Meddyg Iechyd Galwedigaethol, MT neu arbenigwr meddygol arall lenwi dogfen ategol A, a bydd angen:

  • cadarnhau bod gan hyfforddai anabledd yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010
  • disgrifio natur y driniaeth barhaus a pha mor aml y bydd angen dilyn i fyny
  • nodi pam bod angen gwneud yr addasiad rhesymol, sef trosglwyddo, a sut fyddai symud yn cefnogi’r hyfforddai gyda’r newid i’w amgylchiadau.

Rhaid llenwi pob rhan o Ddogfen Ategol A.

Tystiolaeth i gefnogi maen prawf 2 – ‘dogfen ategol B'

Gallwch ddod o hyd i ddogfen ategol B yn yr adran ffeiliau, a rhaid ei chyflwyno gyda chais am IDT dan Faen Prawf 2 (Cyfrifoldebau Prif Ofalwr). Ni fydd yn bosib deryn dogfennau amgen yn lle ‘dogfen ategol B’.

Rhaid i’r hyfforddai, a Meddyg Teulu neu Weithiwr Cymdeithasol y person sy’n derbyn gofal gan yr hyfforddai lenwi dogfen ategol B, a bydd yn cynnwys:

  • datganiad yn cadarnhau rôl yr hyfforddai fel prif ofalwr y person sy’n derbyn gofal
  • cynllun gofal y person sy’n derbyn gofal.

Rhaid llenwi pob rhan o Ddogfen Ategol B.

Tystiolaeth i gefnogi maen prawf 3 – ‘dogfen ategol C'

Gallwch ddod o hyd i ddogfen ategol C yn yr adran ffeiliau a rhaid ei chyflwyno gyda chais IDT dan Faen Prawf 3 (Cyfrifoldeb Rhiant/Gwarcheidwad). Ni fydd yn bosib derbyn dogfennau amgen yn lle ‘dogfen ategol C’.

Rhaid i’r hyfforddai a llofnodwr lenwi dogfen ategol C. Rhaid i’r llofnodwr fod yn Oruchwylydd Addysgol neu Gyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddiant presennol yr hyfforddai fydd yn cadarnhau, hyd eithaf ei wybodaeth, ei fod yn ymwybodol o’r newid i amgylchiadau personol. Ni fydd y ddogfen hon yn cael ei defnyddio gan Oruchwylwyr Addysgol na Chyfarwyddwyr Rhaglen Hyfforddaint i wrthod unrhyw gais am drosglwyddiad.

Rhaid llenwi pob rhan o Ddogfen Ategol C.

Rhaid i hyfforddeion sy’n gwneud cais dan Faen Prawf 3 gyflwyno tystysgrif geni hefyd ar gyfer pob plentyn a nodir yn Nogfen Ategol C.

Tystiolaeth i gefnogi maen prawf 4 – ‘dogfen ategol D’

Gallwch ddod o hyd i ddogfen ategol D yn yr adran ffeiliau a rhaid ei chyflwyno gyda chais IDT dan Faen Prawf 4 (Perthynas Bwysig). Ni fydd yn bosib derbyn dogfennau amgen yn lle ‘dogfen ategol D’.

Rhaid i’r hyfforddai a llofnodwr lenwi dogfen ategol D. Rhaid i’r llofnodwr fod yn Oruchwylydd Addysgol neu Gyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddiant presennol yr hyfforddai fydd yn cadarnhau, hyd eithaf ei wybodaeth, ei fod yn ymwybodol o’r newid i amgylchiadau personol. Ni fydd y ddogfen hon yn cael ei defnyddio gan Oruchwylwyr Addysgol na Chyfarwyddwyr Rhaglen Hyfforddaint i wrthod unrhyw gais am drosglwyddiad.

Rhaid llenwi pob rhan o Ddogfen Ategol D.

Rhaid i hyfforddeion sy’n gwneud cais dan faen prawf 4 ddarparu un ai tystysgrif priodas, tystysgrif partneriaeth sifil neu ddwy enghraifft o gyfrifoldeb ariannol a rennir (er enghraifft morgais neu gytundeb tenantiaeth neu filiau cyfleustodau ar y cyd).

Llenwi eich cais IDT

Ar ôl i chi ddarllen y nodiadau canllaw hyn a llenwi’r ffurflen gais a’r ddogfen ategol, anfonwch nhw at y cyfeiriad canlynol: Gweinyddwr IDT, AaGIC, Is-adran MT, Tŷ Dysgu, Cefn Coed, Nantgarw, Caerdydd, CF15 7QQ

Unwaith y bydd eich cais wedi’i dderbyn, byddwch yn cael gwybod dros e-bost am hyn. Byddwch yn cael gwybod am benderfyniad eich cais dros e-bost o fewn wythnos o’r cyfarfod Gweithredol Hyfforddiant MT ar ddiwedd mis Medi/Mawrth.

Does dim modd newid cynnig trosglwyddiad o fewn deoniaeth. Os ydych yn dewis gwrthod eich cynnig, bydd angen i chi ail-ymgeisio yn ystod y ffenestr geisiadau nesaf. Bydd gennych 48 awr i dderbyn neu wrthod cynnig i drosglwyddo o fewn deoniaeth.

Ffeiliau