Mae AaGIC yn gwasanaethu De a Gogledd Cymru ar gyfer hyfforddiant mewn OMFS.
Ar hyn o bryd mae 9 swydd hyfforddi ar gyfer De Cymru a 2 swydd hyfforddi ar gyfer Gogledd Cymru (mae Gogledd Cymru yn rhan o gylchdro HEE NW).
Mae'r rhaglen hyfforddi'n cwmpasu'r Cwricwlwm Arbenigedd gan gynnwys Trawma, Canser y Pen a'r Gwddf, Llawfeddygaeth Orthognathig, Clefyd y Chwarren Poer, Canser y Croen, Llawfeddygaeth Hollt, Llawfeddygaeth Ddeintyddol Feolar ac agweddau ar Lawfeddygaeth TMJ.
Darperir yr hyfforddiant yn y 5 Bwrdd Iechyd a ganlyn:
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan |
Ysbyty Grange, Cwmbrân ac Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr |
Ysbyty Glan Clwyd, y Rhyl ac yn cylchdroi i gylchdro Deoniaeth Ogledd-orllewin HEE |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro |
Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf |
Ysbyty Tywysog Siarl, Merthyr Tudful ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant |
BIP Bae Abertawe |
Ysbyty Treforys, Abertawe ac Ysbyty Singleton, Abertawe (ar hyn o bryd hefyd yn mynychu Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr) |