Mae arbenigedd Lawdriniaeth Gyffredinol yn cynnwys is-arbenigaethau:
• llawdriniaeth colorectal
• llawdriniaeth gastroberfeddol uchaf
• llawdriniaeth hepatobiliary
• llawdriniaeth ar y fron
• llawdriniaeth endocrin
• llawdriniaeth trawsblaniad.
Cyflwynir y rhaglen hyfforddi ledled Cymru (gogledd a de). Mae hyfforddeion yn tueddu i gael eu lleoli yn yr un rhanbarth daearyddol (gogledd, de ddwyrain neu dde orllewin) am dair blynedd gyntaf y cynllun hyfforddi.
Mae gan y rhaglen un o'r cyfraddau llwyddiant uchaf ar gyfer arholiad rhyng-golegol FRCS (ymadael), a chefnogir hyfforddeion i gymryd amser allan o raglen ar gyfer ymchwil neu brofiad clinigol pryd bynnag y bo modd.