Neidio i'r prif gynnwy

Arholiad Cofrestru Tramor (ORE)

Three dentists

Rhaid i ddeintyddion sy’n cymhwyso y tu allan i’r UE basio dwy ran yr Arholiad Cofrestru Tramor (ORE) a osodir gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (CDC), sef corff rheoleiddio’r proffesiwn deintyddol yn y DU, cyn iddynt fod yn gymwys i gael eu cofrestru.

Rhaid i ddeintyddion sydd wedi cymhwyso o dramor gadarnhau statws eu cofrestriad a'r dogfennau sy'n ofynnol ar gyfer cofrestru gyda'r CDC cyn iddynt deithio i'r DU.

Nod yr arholiad yw profi gwybodaeth a sgiliau deintyddion nad yw eu cymwysterau sylfaenol yn cael eu cydnabod ar gyfer cofrestru’n llawn gyda’r CDC. Enillir yr hawl i gofrestru drwy lwyddo yn yr arholiad, a gynhelir mewn ysgolion deintyddol yn y DU. Gellir cael mwy o wybodaeth am yr ORE gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol.

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am ein darpariaeth addysgol a chyngor ac arweiniad cyffredinol ar gyfer deintyddion tramor, cysylltwch â Keith Smart neu trefnwch apwyntiad i’w gyfarfod drwy gysylltu â gweinyddwr yr uned gymorth proffesiynol deintyddol (DPSU).

Gweinyddwr Cymorth Deintyddol Proffesiynol

HEIW.DPSU@Wales.nhs.uk

Keith Smart

Keith.Smart2@wales.nhs.uk