Neidio i'r prif gynnwy

Dilysu'r rhestr o Berfformwyr yn ôl profiad

Series of key works

Mae AaGIC yn gweinyddu’r broses ynglŷn â Dilysu Rhestr Berfformwyr yn ôl Profiad (PLVE) ar y cyd â Byrddau Iechyd Lleol a’r rhestr o Berfformwyr ar ran Llywodraeth Cymru.

Beth yw PLVE?

Mae PLVE (y cyfeirir ato’n ffurfiol fel Hyfforddiant Galwedigaethol drwy Gyfwerthedd) yn broses ar gyfer graddedigion mewn ysgolion deintyddol tramor (y tu allan i’r DU/Ardal Economaidd Ewrop) sydd â phrofiad clinigol yn eu mamwlad i gadarnhau bod ganddynt y profiad a’r hyfforddiant angenrheidiol i weithio yn y GIG yn y DU.

Nid rhaglen hyfforddi yw PLVE, proses asesu yw i ganfod a ellir dyfarnu rhif VT neu beidio, yn dibynnu ar lefel y profiad a ddangosir. Bydd y Panel PLVE yn ystyried y cais a wneir ac yn gwneud asesiad yn unol â hynny. Os mai penderfyniad y Panel yw peidio â dyfarnu rhif VT, byddant yn argymell pa weithgareddau ychwanegol y dylai’r ymgeisydd ymgymryd â hwy cyn gwneud cais eto am rif VT. Anfonir yr argymhellion hyn ymlaen at y Rhestr o Berfformwyr i’w hystyried.

Er mwyn gwneud cais am PLVE, rhaid i’r ymgeisydd fod wedi cofrestru’n llawn gyda’r CDC a rhaid iddo fod â rhywfaint o brofiad clinigol ar ôl cymhwyso yn ei wlad ei hun.

PLVE yng Nghymru

Y cam cyntaf yw i’r ymgeisydd ddod o hyd i swydd. Nid oes gan AaGIC restr o ddeintyddfeydd na swyddi posibl.

Ar ôl i’r ymgeisydd gael cynnig swydd, rhaid iddo gysylltu â’r BILl lle lleolir y practis a gwneud cais i ymuno â’r Rhestr o Berfformwyr Deintyddol yng Nghymru. Bydd angen i’r BILl ac AaGIC gymeradwyo’r practis a’r Mentor Ymarfer. Y BILl fydd yn penderfynu’n derfynol a fydd yr ymgeisydd yn gallu ymuno â’r Rhestr Genedlaethol o Berfformwyr fel ‘Perfformwr Deintyddol’.

Ar ôl dechrau ar y broses o wneud cais i ymuno â’r Rhestr o Berfformwyr, bydd yr ymgeisydd yn llenwi ac yn cyflwyno Ffurflen Gais PLVE i AaGIC. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys Siart Llif o’r Broses, ar gael yn yr Adran ar Adnoddau Cysylltiedig. Mae canllawiau ar y portffolio ar gael yn y ddogfen COPDEND ‘Canllaw ar y Fframwaith Cymhwysedd’. Mae’r Cwricwlwm Hyfforddiant Deintyddol Sylfaeol presennol wedi ei ddarparu fel y gellir cyfeirio ato.

  1. Bydd y pwyllgor PLVE yn adolygu portffolio ymgeisydd yn erbyn meysydd Proffesiynol a Rheolaethol y Cwricwlwm ar gyfer Deintyddion lefel Sylfaen ac yn penderfynu a yw’n gyfwerth. Codir ffi o £1,600 am y gwasanaeth hwn, a bydd tri aelod profiadol o’r panel yn ymgymryd â’r gwaith.

    Cofiwch y bydd ffi weinyddol o £400 na fydd modd ei had-dalu ar gyfer adolygu dogfennau anghyflawn.

    Bydd y paneli Adolygu PLVE hyn yn cwrdd ym mis Ionawr a mis Gorffennaf bob blwyddyn.

  2. Bydd PLVE yn darparu adroddiad i’r BILl a’r Ymgeisydd yn nodi canlyniad yr adolygiad portffolio hwn.
  3. Os bydd bylchau yn y portffolio, bydd gofyn i’r ymgeisydd ddatblygu a chyflawni CDP a chyfnod o hyfforddiant dan oruchwyliaeth, a fydd yn cael ei oruchwylio gan yr Uned Gefnogi Gweithwyr Deintyddol Proffesiynol (DPSU).
  4. Ar ôl i’r ymgeisydd fodloni meini prawf y CDP, gall gyflwyno ei bortffolio diwygiedig i Banel PLVE (codir ffi ychwanegol o hyd at £1,600).

Nid yw PLVE yn gallu asesu meysydd clinigol y cwricwlwm a dylai hyn gael ei asesu gan y cyflogwr/hyfforddwr sy’n goruchwylio.

Cwestiynau Cyffredin

Gellir e-bostio cwestiynau na chrybwyllir yn y dogfennau yn yr adran ar Adnoddau Cysylltiedig neu’r Cwestiynau Cyffredin isod at Diwtor Cefnogol yr DPSU, d/o Gweinyddwr y DPSU.

Allwch chi roi awgrymiadau i mi ynghylch lle i chwilio am swydd?

Yn anffodus, nid oes gennym unrhyw wybodaeth am swyddi neu agoriadau posibl.

A gaf i weithio llai nag amser llawn?

Cewch, ond rhaid i chi sicrhau nad ydych yn gweithio mwy na 12 mis cyfwerth ag amser llawn yn y swydd hyfforddi.

Beth sydd angen imi ei gynnwys yn fy mhortffolio?

Gweler y canllawiau ar y wefan hon – ‘Canllawiau Fframwaith Cymhwysedd’.

Gall y dystiolaeth yn y portffolio gynnwys y canlynol:

  • CV yn dangos tystiolaeth o brofiad o yrfaoedd deintyddol sylfaenol yn y GIG yn y DU
  • Sylwebaeth adfyfyriol ar brofiad yn y GIG
  • Geirdaon clinigol
  • Contract cyflogaeth ac adfyfyrio, cyfeiriadau at drafodaethau tiwtorial
  • Cynllun datblygu personol (CDP)
  • Datganiadau gan gydweithwyr
  • Holiaduron adborth cleifion
  • Cofnodion cleifion dienw
  • Llythyrau cyfeirio ac atebion
  • Cofnodion cyfarfodydd staff
  • Sylwadau adfyfyriol ar sesiynau hyfforddi staff
  • Cofnod datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) gyda thystysgrifau penodol
  • Protocolau ymarfer penodol a sylwadau adfyfyriol, gan gyfeirio at diwtorialau.

Oes rhaid i mi gyflwyno portffolio i banel adolygu cyn dechrau ar fy hyfforddiant dan oruchwyliaeth? Does gen i ddim tystiolaeth o’m gwaith blaenorol.

Na, os nad oes gennych chi bortffolio, gallwch ddechrau ymarfer dan oruchwyliaeth, ond cofiwch na all AaGIC roi unrhyw arweiniad ynghylch pa feysydd o’r portffolio y mae angen i chi ganolbwyntio arnynt nes bod eich portffolio wedi cael ei gyflwyno i’w adolygu gan Banel Adolygu PLVE.

A ydych yn mynnu bod nyrs ddeintyddol sydd wedi cymhwyso’n llawn gyda mi ynteu a all fod yn nyrs sy’n hyfforddi?

Mae Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol yn gofyn am nyrs ddeintyddol sydd wedi cymhwyso’n llawn; rydym yn argymell yr un peth ar gyfer PLVE.

Oes rhaid i fy ngoruchwyliwr ymarfer wneud unrhyw raglenni cymeradwy?

Os nad yw’r goruchwyliwr/ mentor yn y practis yn oruchwyliwr addysgol DF presennol/diweddar (o fewn y 2 flynedd ddiwethaf), yna bydd yn rhaid iddo ymgymryd â Rhaglen Fentora/Addysgiadol gymeradwy fel y dynodir gan AaGIC, o fewn cyfnod sydd wedi’i ddiffinio’n glir.

A fydd y practis deintyddol yn gallu cyfrif yr UDAau y byddaf yn eu cwblhau tuag at gyfanswm eu hymarfer?

Bydd, oherwydd nad ydyn ni’n ariannu eich lle yn y practis, bydd y practis yn gallu cyfrif yr UDAau yr ydych chi’n eu gweithio pan fyddwch chi yno. Os oes gan y practis hyfforddai DFT hefyd, ni allant gyfrif yr UDAau y mae’r deintydd yn eu gweithio am ein bod yn darparu cyllid i gefnogi ei hyfforddiant.

A gaf i fynychu cyrsiau DPP neu gyrsiau eraill mewn Deoniaethau eraill?

Gallwch, gallwch fynychu cyrsiau mewn unrhyw leoliad arall ar yr amod eu bod hefyd yn caniatáu i chi eu mynychu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael tystysgrif i brofi eich presenoldeb a’i chynnwys yn rhan o’ch portffolio.

Faint o gleifion sy’n gorfod cyflwyno ymateb yn rhan o holiadur boddhad cleifion?

Rhaid i o leiaf 20 claf ymateb a chael eu coladu.

Sawl asesiad yn y gweithle (h.y. CDB, ACEP) ddylwn i eu cyflwyno yn rhan o fy mhortffolio?

Hoffai’r panel weld o leiaf un CBD ac un ADEP ar gyfer pob mis y byddwch chi’n gweithio mewn practis. Er enghraifft, os ydych yn gweithio mewn practis am saith mis cyn cyflwyno eich portffolio, dylech gyflwyno o leiaf saith CBD a saith ADEP.

Dyddiadau Cyfarfodydd Panel PLVE sydd i ddod

Cynhelir cyfarfodydd y panel dair i bedair gwaith y flwyddyn. Cysylltwch â Gweinyddwr yr DPSU (HEIW.DPSU@wales.nhs.uk) i gael dyddiad y cyfarfod nesaf.

Edrychwch ar y Siart Llif ar gyfer Ceisiadau Cychwynnol yn yr Adran Adnoddau Cysylltiedig i gael arweiniad ar sut mae gwneud cais.