Mae adran ddeintyddol i ôl-raddedigion Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn cefnogi addysg a hyfforddiant ôl-radd ar gyfer y gweithlu deintyddol cyfan (deintyddion a gweithwyr proffesiynol ym maes gofal deintyddol) yng Nghymru.
Mae hyn yn cynnwys Deintyddiaeth Sylfaenol, Deintyddiaeth Graidd a Hyfforddiant Deintyddol Arbenigol ar gyfer deintyddion a Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar gyfer deintyddion a gweithwyr proffesiynol ym maes gofal deintyddol (DCP). Ategir y gweithgareddau hyn gan ymchwil addysgol briodol a sicrwydd ansawdd i sicrhau eu bod o safon uchel i ddiwallu anghenion gweithwyr deintyddol proffesiynol a’u cefnogi i ofalu am eu cleifion.