Neidio i'r prif gynnwy

Cymdeithion Anesthesia

Pwy yw Cymdeithion Anesthesia 

Mae Cymdeithion Anesthesia (AAs) yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio ochr yn ochr ag Anesthetyddion Ymgynghorol i ddarparu gofal anesthesia i gleifion cyn, yn ystod ac ar ôl triniaethau llawfeddygol. Mae rôl cynorthwyydd anesthesia yn y GIG yn un gymharol newydd, ar ôl cael ei chyflwyno yn 2014. 

 

Rôl cymdeithion anesthesia 

Mae cymdeithion anasthesia yn darparu gofal anesthetig a gofal aml-lawdriniaethol i gleifion sy'n cynnwys ystod o dasgau, gan gynnwys asesu cleifion, rheoli'r llwybrau anadlu, a rhoi cyffuriau. Maent yn gweithio dan oruchwyliaeth Anesthetyddion Ymgynghorol mewn model 2:1 neu 1:1. Maent hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl offer a meddyginiaethau a ddefnyddir yn ystod triniaethau anesthesia yn ddiogel ac yn briodol. 

Fel Cymdeithion Anesthesia byddwch fel arfer yn gweithio mewn theatrau llawdriniaeth ond gallwch hefyd weithio mewn adrannau eraill fel Unedau Gofal Dwys neu Ofal Brys. Byddwch hefyd yn gweithio fel rhan o dîm gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, gan gynnwys llawfeddygon, nyrsys ac anesthetyddion eraill, i sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal o ansawdd uchel. 

 

Rheoleiddio rôl y Cydymaith Meddygol 

Ers mis Rhagfyr 2024 mae Cymdeithion Meddygol yn cael eu rheoleiddio gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) a gallant nawr wneud cais i ymuno â'r gofrestr. Ar gyfer Cymdeithion Meddygol sy'n ymarfer ar hyn o bryd, bydd angen iddynt ymuno â'r gofrestr erbyn mis Rhagfyr 2026. Am ragor o wybodaeth, gweler y ddolen i wefan GMC: Diweddariad ar Gymdeithion Anesthesia a Chymdeithion Meddygol 

 

Adolygiad Leng 

Mae llywodraeth y DU wedi sefydlu adolygiad annibynnol o broffesiynau cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia (AAs) yn Lloegr. Mae'r adolygiad i fod i gael ei ryddhau yn haf 2025 a bydd yn llywio polisi'r llywodraeth. Bydd hyn hefyd yn cael effaith ar Gymdeithion Meddygol ac Anesthesia yng Nghymru. 

Am ragor o wybodaeth, gweler y ddolen i wefan GOV.UK: Adolygiad Leng: rhagor o fanylion am y meysydd i'w cynnwys yn yr adolygiad o broffesiynau ymdeithion meddygol ac anesthesia - GOV.UK 

 

Sut i ddod yn Gydymaith Anesthesia 

I ddod yn gydymaith anesthesia yn y GIG, mae angen gradd israddedig arnoch mewn pwnc iechyd neu wyddoniaeth fel biofeddygaeth, a phrofiad clinigol perthnasol o weithio o fewn y GIG. Gall y profiad clinigol hwn ddeillio o amrywiaeth o rolau, gan gynnwys nyrsio, ymarfer adran lawdriniaeth, ffisiotherapi, radiograffeg, a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd eraill. Yn ogystal, bydd angen i chi gwblhau gradd ôl-raddedig 24–27 mis mewn ymarfer cydymaith anesthesia. Ar ôl cwblhau'r rhaglen, bydd angen i chi basio'r arholiad ardystio cenedlaethol i ddod yn gydymaith anesthesia ardystiedig.