Briffio ar drefniadau newydd i ddeintyddion tramor gael mynediad i'r Rhestr Perfformwyr Deintyddol yng Nghymru
Diweddariad Briffio Tachwedd 2024
Pwrpas
Cyflwyno newidiadau sy'n ofynnol i ddeintyddion rhyngwladol ymuno â'r Rhestr Perfformwyr Deintyddol (DPL) yng Nghymru drwy Ddilysu Rhestr o Berfformwyr yn ôl Profiad (PLVE). Mae'r ddeddfwriaeth y tu ôl i hyn o fewn Rheoliadau Rhestr Perfformiwr GIG Cymru https://www.legislation.gov.uk/wsi/2004/1020/part/4 a'r rheoliadau cyfatebol yn Lloegr.
Mae penderfyniadau ynghylch mynediad i'r Rhestr Perfformwyr Deintyddol yn dibynnu ar y Byrddau Iechyd o fewn eu strwythurau Llywodraethu Ansawdd a Diogelwch priodol. Bydd Cyfarwyddwyr Meddygol neu eu hawdurdod dirprwyedig (e.e. Cynghorwyr Practis Deintyddol) yn gwneud argymhellion i'r ymgeisydd ymuno â'r Rhestr Perfformwyr Deintyddol, gydag amodau neu hebddynt. Bydd yr holl adnoddau a dogfennau ategol presennol yn parhau i fod ar gael a darperir addysg a hyfforddiant drwy AaGIC.
Mae'r broses newydd isod ac mae cynllun pontio ar waith i drosglwyddo cyfrifoldeb llawn am y ceisiadau hyn i Fyrddau Iechyd yn effeithiol o 1 Ionawr 2025.
|
|
|
(Ni fydd AaGIC yn cymeradwyo mentoriaid na hyfforddiant mentoriaid, fodd bynnag, bydd yn parhau i gynnig yr hyfforddiant Datblygu Addysg Ddeintyddol (DDE) |
|
|
|
|
|
Bydd AaGIC yn sicrhau bod yr adnoddau canlynol ar gael y gall rhanddeiliaid ddewis eu defnyddio:
Darperir cefnogaeth barhaus gan AaGIC drwy'r cyfnod pontio i sicrhau nad effeithir yn andwyol ar ymgeiswyr a bod cynrychiolwyr Byrddau Iechyd yn ymwybodol o'r newidiadau a'u rôl.