Gallwch gofrestru i dderbyn cylchlythyrau chwarterol gan dîm y rhaglen yma.
Gellir dod o hyd i'n holl ddigwyddiadau trwy'r dudalen digwyddiadau.
Cynhadledd gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd (AHPs) 2022: Amseroedd Arbennig, Arfer Arbennig - 13 Diwrnod ar gyfer AHPs
Rhwng 23 Chwefror a 11 Mawrth cynhaliwyd Cynhadledd AHP 2022. Yn sgîl y pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol roedd ein cynhadledd wedi cael ei strwythuro mewn modd ychydig yn wahanol. Er mwyn galluogi cynifer o bobl â phosibl i fynychu, cawsom 13 o sesiynau awr ar hyd 13 diwrnod gan alluogi cynadleddwyr i ddewis a dethol y sesiynau.
Mae’n bosibl na fydd rhai o’r dogfennau o ffynonellau allanol ar gael yn Gymraeg.