Neidio i'r prif gynnwy

Safonau adsefydlu cymunedol

Mae’r galw am wasanaethau adsefydlu yn cynyddu. Mae hyn oherwydd poblogaeth sy'n heneiddio, mwy o bobl yn byw gydag eiddilwch, cyflyrau cymhleth hirdymor, dadelfennu (gostyngiad mewn gweithrediad corfforol) ac effaith y pandemig ar iechyd a lles pobl.

Er mwyn helpu Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHPs) i ddarparu gwasanaethau adsefydlu, a phobl sydd angen mynediad atynt, rydym wedi datblygu Safonau Arfer Gorau Adsefydlu Cymunedol Cymru Gyfan.

Nod y gwaith hwn yw:

  • cefnogi gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio mewn gwasanaethau adsefydlu i ddeall a darparu adsefydlu safonol
  • caniatáu i wasanaethau adsefydlu feincnodi eu gwasanaeth yn erbyn eraill, edrych ar ffyrdd o wella eu darpariaeth gwasanaeth eu hunain, a helpu i nodi prosiectau gwella ansawdd
  • sicrhau y gall unrhyw un sydd angen adsefydlu cael mynediad at y gwasanaethau hyn a chael triniaeth gyfannol gyda nhw yn y canol, tra hefyd yn rhoi arweiniad iddynt ar yr hyn y gallant ei ddisgwyl.

Mae'r safonau'n cynnwys dau adnodd hunanarchwilio: un ar  gyfer darparwyr gwasanaeth ac un ar  gyfer defnyddwyr gwasanaeth.

Bydd y rhain yn helpu pobl sy'n gweithio ym maes adsefydlu i weld sut mae eu gwasanaeth yn bodloni'r safonau hyn. Bydd yn nodi'r galluogwyr ansawdd sydd angen eu gwella a bydd y ddogfen yn darparu adnoddau i'w gwella. Bydd hefyd yn gweithredu fel platfform, i bobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau adsefydlu a'r rhai sy'n defnyddio gwasanaethau adsefydlu, roi adborth ar eu profiad fel y gallwn barhau i wella.

Yn ogystal, rydym wedi dylunio templedi Microsoft Form enghreifftiol ar gyfer timau neu wasanaethau. Bydd y rhain yn eich cefnogi ymhellach i gasglu adborth gan ymarferwyr neu ddefnyddwyr gwasanaeth mewn fformat arall.

Mae’r safonau a’r galluogwyr ansawdd hyn wedi’u datblygu i gefnogi Fframwaith Adsefydlu Cymru Gyfan (2022) drwy ddarparu safonau mwy penodol ar gyfer adsefydlu cymunedol.