Yn ystod 2021/22 bu Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn cefnogi Grŵp y Gweithlu Delweddu ac Addysg (IWEG) a’r Rhaglen Delweddu Genedlaethol i ddatblygu’r ddogfen atodedig Adeiladu Model ar gyfer Gweithlu Delweddu GIG Cymru – Strategaeth i Ddatblygu Gweithlu Radioleg ar gyfer Cymru.
Y ‘Strategaeth i Ddatblygu Gweithlu Radioleg ar gyfer Cymru’ yw’r deilliant cyntaf yn y broses o greu Model ar gyfer Gweithlu Delweddu GIG Cymru.
Mae’r Strategaeth yn cyflwyno nifer o argymhellion i gefnogi a hwyluso’r gwaith o ddatblygu gweithlu Radioleg cryf, cadarn, a chynaliadwy i’r dyfodol. Mae’r argymhellion hyn yn gofyn am ddull cenedlaethol a lleol o weithredu er mwyn sicrhau bod y manteision yn cael eu gwireddu i’r cleifion a’r staff.
Mae’r Rhaglen Delweddu Genedlaethol wedi ymrwymo i fod yn gyfrifol am reoli a gweithredu’r argymhellion hyn drwy raglen waith, gan gydlynu a bwrw ymlaen y gwaith o weithredu’r argymhellion y mae angen rhoi sylw iddynt yn genedlaethol, gan roi cefnogaeth hefyd i Sefydliadau gyda’r gwaith o weithredu’r rhain yn lleol
Strategaeth i Ddatblygu Gweithlu Radioleg ar gyfer Cymru - Llythyr
Rhaglen Trawsnewid y Gweithlu Delweddu ac Addysg (IWETG) – Cynllun Gwaith Lefel Uchel
Cyhoeddwyd 8 Awst 2023