Neidio i'r prif gynnwy

Strategaeth addysg genedlaethol newydd yn seiliedig ar efelychiad yn cael ei chyflwyno

Heddiw mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi lansio eu strategaeth addysg a hyfforddiant seiliedig ar efelychu (SBET) a fydd yn gwella sgiliau gweithlu’r presennol a’r dyfodol gan ddefnyddio’r technolegau trochi ac efelychu diweddaraf.

Mae'r strategaeth, a ddatblygwyd ar y cyd â'r gymuned efelychu gofal iechyd a chynrychiolwyr lleyg, yn darparu gweledigaeth strategol ar gyfer addysg sy'n seiliedig ar efelychu a fydd yn safoni darpariaeth SBET ac yn adeiladu ar arfer da cyfredol ledled Cymru.

Mae hefyd yn datblygu cyfleoedd cydweithredol gyda rhanddeiliaid allweddol sy’n berthnasol i SBET yng Nghymru ymhellach, megis gyda Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, gwledydd eraill y DU a chyda chydweithwyr rhyngwladol, i gyfoethogi dysgu rhyngbroffesiynol.

Dywedodd Sara-Catrin Cook, Deon Cyswllt ar gyfer Efelychu a Sgiliau Clinigol:

“Wrth galon y strategaeth hon mae diogelwch, profiad a chanlyniadau cleifion a defnyddwyr gwasanaeth. Mae'n hysbys bod addysg a hyfforddiant sy'n seiliedig ar efelychu yn cynnig llawer o fanteision gan gynnwys y gallu i ddarparu ystod eang o brofiadau sy'n adlewyrchu sefyllfaoedd clinigol 'bywyd go iawn'. Creu amodau diogel ar gyfer dysgu, magu hyder a pharatoi ar gyfer realiti gweithio ac ymateb i sefyllfaoedd clinigol.”

Dywedodd Alex Howells, Prif Weithredwr, Addysg a Gwella Iechyd Cymru:

“Mae’r buddsoddiad mewn addysg sy’n seiliedig ar efelychu sy’n datblygu’n dechnolegol yn barhaus yn amhrisiadwy ac yn mynd y tu hwnt i’w fanteision i ddysgwyr. Mae’n sicrhau mynediad teg i hyfforddiant sy’n cyrraedd ardaloedd gwledig a threfol, yn helpu ein system gofal iechyd i addasu’n gyflymach i’r newidiadau cyflym mewn gofal iechyd ac yn darparu gofal a sicrwydd o ansawdd uchel i gleifion nawr ac yn y dyfodol.”

Cewch ragor o wybodaeth ewch i'n tudalennau gwefan strategaeth-addysg-a-hyfforddiant-seiliedig-ar-efelychu-cymru-gyfan/