Neidio i'r prif gynnwy

Lleoliadau gwych ar gael i fyfyrwyr nyrsio yng Nghymru

“Rwy’n teimlo fy mod wedi fy ysbrydoli i fod y nyrs orau y gallaf fod. Mae nyrsio wedi dangos i mi beth yw ystyr empathi.” (Jane: Myfyriwr nyrsio presennol - 2024) 

Mae sylw Jane yn crynhoi ei hangerdd am nyrsio ac yn cael ei rannu'n eang gan fyfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni nyrsio yng Nghymru. Mae cychwyn gyrfa nyrsio nid yn unig yn ymwneud â dysgu sut i berfformio sgiliau technegol, ond hefyd â chynyddu eich arbenigedd proffesiynol ynghylch sut i gefnogi eraill.

Mae bod yn nyrs yn golygu gwybod sut i flaenoriaethu pobl, cadw diogelwch, ymarfer yn effeithiol a hyrwyddo proffesiynoldeb ac ymddiriedaeth. Mae nyrsio yn ymwneud â darparu gofal tosturiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, arwain newid ac arloesi yn ogystal â gwybod, er enghraifft, sut i gymryd pwysedd gwaed rhywun neu osod caniwla.

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw comisiynydd pob rhaglen gofal iechyd yng Nghymru ac mae wedi dyfarnu contractau addysg i holl ddarparwyr addysg rhaglenni gofal iechyd.

Mae angen i holl brifysgolion Cymru sy'n cynnig rhaglenni nyrsio sicrhau eu bod yn bodloni safonau ansawdd uchel a nodir yng nghontractau addysg AaGIC a chan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.

Mae pedwar maes nyrsio: Nyrsio Oedolion; Nyrsio Iechyd Meddwl; Nyrsio Plant a Nyrsio Anabledd Dysgu.

Mae rhaglenni nyrsio yn cynnwys 2,300 awr o ddysgu academaidd a 2,300 awr o waith lleoliad. Mae gwahanol lwybrau a hyd raglenni nyrsio, ond os dechreuwch ar raglen nyrsio tri blynedd gallwch ddisgwyl cael tua naw lleoliad i gyd, tri ym mhob blwyddyn.

Er enghraifft, dyma daith lleoliad Tahir i gofrestru fel myfyriwr Nyrsio Oedolion:

Blwyddyn 1: Ysbyty Cymunedol - Ward Arennol - Uned Mân Anafiadau.

Blwyddyn 2: Tîm Nyrsio Ardal - Uned Derbyniadau Meddygol Acíwt - Ward Ysbyty yn gofalu am bobl hŷn.

Blwyddyn 3: Adran Achosion Brys – Theatrau Llawfeddygol – Ward Feddygol

Ym mhob un o'r lleoliadau hyn roedd gan Tahir hefyd rai lleoliadau 'spoke' byr ychwanegol, megis gweithio mewn tîm yn cefnogi pobl ddigartref, gwasanaeth cymunedol yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu, amser gyda nyrsys ymchwil, gyda grwpiau cymorth gwirfoddol, a llawer mwy.

Cefnogir pob myfyriwr trwy gydol eu holl leoliadau. Mae'n ofynnol i oruchwylwyr ymarfer ac aseswyr myfyrwyr nyrsio fodloni Safonau ar gyfer goruchwylio ac asesu myfyrwyr a osodwyd gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.

Mae ymrwymiad clir i ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel ar leoliad myfyrwyr sy'n bodloni addewidion pwysig y cytunwyd arnynt gan yr holl ddarparwyr lleoliadau ledled Cymru.

Gweler rhai o'r sylwadau Cwmwl Geiriau y mae myfyrwyr wedi'u cofnodi am eu lleoliadau fel rhan o'n menter cardiau post digidol AaGIC.

Mae nyrsio yn yrfa wych. Mae cyfle i ennill cofrestriad proffesiynol a gradd ar yr un pryd sy'n eich paratoi ar gyfer antur bywyd cyffrous, heriol a gwerth chweil gyda chyfleoedd personol a phroffesiynol anhygoel.