Neidio i'r prif gynnwy

Lansio cymrodoriaeth newydd i drawsnewid gwasanaethau gwyddor gofal iechyd yn GIG Cymru

Published 10/04/2024

Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer Cymrodoriaeth Trawsnewid y Gwasanaeth Gwyddor Gofal Iechyd – Cynnydd.

Yn newydd ar gyfer 2024, caiff y gymrodoriaeth ei hariannu gan y Rhaglen Gwyddor Gofal Iechyd o fewn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Mae'r cyfle yn galluogi gweithwyr proffesiynol gwyddor gofal iechyd i wneud cais am hyd at £3,500 o gyllid i ymweld ag adrannau gwyddor gofal iechyd neu ganolfannau rhagoriaeth y tu allan i Gymru.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cefnogi i ddysgu sgiliau newydd neu brofi arferion rhagorol y gellir eu rhoi ar waith yn GIG Cymru i wella gwasanaethau gwyddor gofal iechyd ar ôl iddynt ddychwelyd.

Mae hyn yn cefnogi’n uniongyrchol Ganllawiau Statudol Dyletswydd Ansawdd 2023 a Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal 2023.

Mae ceisiadau, sy’n cau ddydd Gwener 10 Mai 2024, yn agored i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio o fewn maes gwyddor gofal iechyd yn GIG Cymru. Croesewir ceisiadau grŵp hefyd.

Rhaid i unigolion neu grwpiau sy'n ceisio swm uwch o gyllid na £3,500 gyfiawnhau'r cais yn ystod y broses ymgeisio.

Bydd y symiau terfynol a ddyfernir yn cael eu cytuno gan Bwyllgor Cymrodoriaeth Trawsnewid y Gwasanaeth Gwyddor Gofal Iechyd – sy’n cynnwys aelodau o: DoTHS, Rhaglen Gwyddor Gofal Iechyd AaGIC, Llywodraeth Cymru, Pwyllgor Cynghori Gwyddonol Cymru (WSAC), Iechyd Seiliedig ar Werth a’r Academi Lledaeniad a Graddfa.

Dywedodd Ffion Wynn, Rheolwr Rhaglen Strategol Gwyddor Gofal Iechyd yn AaGIC: “Mae’r gymrodoriaeth newydd hon yn cynnig cyfle i weithwyr proffesiynol ennill profiad a fydd yn cefnogi neu’n hwyluso gwelliannau i’w proffesiwn neu wasanaethau ar lefel leol neu genedlaethol.

“Mae hefyd yn gyfle datblygu gyrfa gwych i’r rhai sydd am symud ymlaen yn eu maes gwybodaeth ac arbenigedd. Edrychwn ymlaen at adolygu’r ceisiadau ac, yn y pen draw, elwa ar y buddion a’r gwersi a ddysgwyd gan ein cymrodyr ar draws GIG Cymru.”

Dywedodd Clive Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd, Cadeirydd y Rhwydwaith Gwyddor Gofal Iechyd: “Mae’r gymrodoriaeth hon yn cynnig cyfleoedd heb eu hail gan alluogi gwyddonwyr gofal iechyd i ymweld ag enghreifftiau rhyngwladol o arfer clinigol gorau, cael mewnwelediadau amhrisiadwy a chreu rhwydweithiau byd-eang o ragoriaeth. Bydd y cymrodyr yn dod â ffyrdd newydd o weithio yn ôl y gallant eu cynyddu a'u lledaenu ar draws eu rhwydweithiau. Gallant hefyd brofi cyfleoedd ar gyfer ymchwil drosiadol flaengar gyda phartneriaid academaidd a masnachol.

“Rwy’n siŵr y bydd y gymrodoriaeth hon yn parhau i ysgogi arloesedd gwyddor gofal iechyd yng Nghymru er budd cleifion a’r boblogaeth ehangach, a bydd y cymrodyr yn dod yn gatalydd cadarnhaol ar gyfer newid cynaliadwy.”

Ewch i dudalen we Cymrodoriaeth Trawsnewid y Gwasanaeth Gwyddor Gofal Iechyd i gael rhagor o wybodaeth am y cyfle a’r broses ymgeisio.