Annwyl gyfeillion,
Ar yr adeg digynsail yma, rydym yn meddwl am ein myfyrwyr gofal iechyd, ein hyfforddeion a'n cydweithwyr ac yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i gefnogi yn sgil y galwadau cynyddol o'r pandemig.
Yn dilyn neges olaf Alex am newidiadau ac addasiadau i'r rhaglen addysg a hyfforddiant (ar gyfer y wybodaeth a'r canllawiau Addysg a hyfforddiant diweddaraf ewch i https://aagic.gig.cymru/cefnogaeth/covid-19/) roeddwn i eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddatblygiadau o fewn ein tîm gweithredol a pheth o'r gwaith rydyn ni'n ei wneud i gefnogi a chynyddu gweithlu'r GIG fel rhan o'r ymateb COVID-19.
Ers yr wythnos diwethaf, am gyfnod dros dro, mae Alex yn cefnogi Andrew Goodall fel Prif Swyddog Gweithredu/Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru, sy'n ymroddedig i COVID 19. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd Alex yn parhau fel Prif Swyddog Gweithredol AaGIC, ond bydd yn cymryd llai o ran yn y gwaith o redeg y sefydliad. Felly, rwy'n ymdrin â llawer o waith o ddydd i ddydd Alex, gan gynyddu'n llawnach i mewn i'm rôl fel Dirprwy Brif Weithredwr. Byddwch hefyd yn ymwybodol o un o fwletinau blaenorol Alex y bydd Stephen Griffiths, ein Cyfarwyddwr Nyrsio, yn ymddeol ddiwedd mis Mai. Fodd bynnag, o ganlyniad i'r sefyllfa bresennol Mae Stephen wedi cynnig yn garedig – ac rydym wedi derbyn yn ddiolchgar – i ddychwelyd i'r gwaith ar ôl iddo ymddeol am dri diwrnod yr wythnos am dri mis i barhau i'n cefnogi yn ystod yr argyfwng hwn.
O ran sut yr ydym yn cefnogi'r newidiadau a'r cynnydd yng ngweithlu'r GIG, ceir crynodeb isod o rywfaint o'r gwaith yr ydym yn ei wneud.
Adnoddau iechyd a lles staff Cymru gyfan
Gwn am bob un ohonom bod iechyd a lles pawb sydd o'n cwmpas yn bwysig iawn, yn enwedig ar hyn o bryd. Ar ran Cyfarwyddwyr Gweithlu a Datblygu'r GIG yng Nghymru, ac mewn partneriaeth ag arweinwyr iechyd a lles staff ac undebau llafur, rydym wedi datblygu Adnodd Covid-19 Lles Staff GIG Cymru. Mae'r adnodd hwn ar gael i unrhyw un sy'n gweithio ym maes gofal iechyd ac mae'n rhoi mynediad i amrywiaeth o wybodaeth am les, pecynnau cymorth a chanllawiau i gefnogi iechyd a lles.
Tyfu'r gweithlu ychwanegol
Rydym wedi bod yn edrych ar sut y gallwn gefnogi sefydliadau'r GIG i gynyddu eu gweithlu dros dro, ac maent yn datblygu cynlluniau ar gyfer rhaglen recriwtio a hyfforddiant cyffredin gyflym a fydd yn cysylltu â chynlluniau recriwtio lleol a dull recriwtio Cymru gyfan, ' COVID-Hub Cymru ', a gyhoeddwyd gan y Gweinidog.
Bydd ein cynllun yn ein gweld yn rheoli camau cychwynnol proses recriwtio Cymru gyfan ar gyfer swydd gyffredinol o Gynorthwyydd Gofal Cleifion Band 2-rôl y gellir ei defnyddio mewn unrhyw gorff yn GIG Cymru. O ran y camau cychwynnol, byddwn yn rheoli prosesau recriwtio, cyfweld, sefydlu a hyfforddi gan gynnwys hyfforddiant cynefino cyffredinol a thrafod â llaw. Wedi i hyn gael ei gwblhau, byddwn yn trosglwyddo'r ymgeiswyr llwyddiannus i'r Bwrdd Iechyd lleol i'w lleoli lle bo angen, y broses adnoddau dynol derfynol a hyfforddiant lleoliad/rôl ychwanegol os oes angen.
Mae'r ymgyrch yn bwriadu lansio'r wythnos nesaf a bydd yn cael ei hanelu at bobl sydd â phrofiad mewn diwydiant sy'n canolbwyntio ar wasanaethau a chwsmeriaid, er enghraifft sectorau hamdden a bwyd a diod, nad ydynt yn gweithio i'w cyflogwr arferol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym yn gwerthfawrogi bod yna lawer o bobl eraill o sectorau eraill a allai fod â diddordeb, ac mae croeso iddynt wneud cais.
Er mwyn hyrwyddo'r rôl, byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a Working Wales (Cangen gwasanaeth cynghori oedolion Gyrfa Cymru). Chwiliwch am yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol a rhowch eich cefnogaeth iddi drwy hoffi a rhannu.
Cefnogi myfyrwyr gofal iechyd i ymuno â'r gweithlu
Rydym yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o arwain, dylanwadu a llywio canllawiau i sicrhau y gall myfyrwyr gyfrannu'n ddiogel at wasanaethau yn ystod y cyfnod hwn.
Mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, rheoleiddwyr, cyrff proffesiynol a phrifysgolion, rydym wedi cyhoeddi canllawiau cynhwysfawr i fyfyrwyr nyrsio a bydwragedd ar sut y gallant gefnogi'r system iechyd a gofal, yn ogystal â chanllawiau ar wahân ar gyfer myfyrwyr proffesiynol perthynol i iechyd a myfyrwyr gwyddor iechyd. Mae'r canllawiau'n cynnwys y broses adleoli ynghyd â chyfres o FAQs i helpu i gefnogi a llywio myfyrwyr.
O fewn Fferylliaeth, ar y cyd â'r tri chorff addysg statudol arall (HEE, NES, a NIMDTA), byddwn yn cyhoeddi canllawiau ar adleoli myfyrwyr fferyllol cyn bo hir.
I fyfyrwyr deintyddol, gyda rhanddeiliaid yn y brifysgol, rydym yn galluogi myfyrwyr sy'n hanu o Gymru i gefnogi gwasanaethau ynghyd â chynnal eu hastudiaethau lle bo hynny'n berthnasol.
Rydym hefyd yn gweithio gydag Ysgolion Meddygol Prifysgolion Caerdydd ag Abertawe i gefnogi'r defnydd o fyfyrwyr meddygol blwyddyn olaf. Er bod myfyrwyr yn cefnogi'r GIG yn y modd hwn, mae trefniadau ar waith i'w graddio'n gynnar (canol mis Mai) er mwyn iddynt allu dewis cael swyddi yn y flwyddyn interim sylfaen un (FY1) a chefnogi'r GIG fel hyn.
Canllawiau dirprwyo cenedlaethol Cymru gyfan
Mae canllawiau cenedlaethol wedi'u datblygu i gynorthwyo â'r gwaith o reoli ac arfer pob gweithred dirprwyo priodol. Fe'u datblygwyd yn bennaf i gynorthwyo staff clinigol, fodd bynnag, gellid cymhwyso'r egwyddorion i bob grŵp staff ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.
Hyfforddiant ar gyfer staff gofal nad ydynt yn gritigol i gefnogi cleifion COVID19 ac arbenigwyr gofal critigol
Gan weithio ar y cyd ag arweinwyr gofal clinigol Cymru gyfan a phrifysgolion, rydym wedi creu dau gwrs i wella sgiliau staff gofal nad ydynt yn gritigol er mwyn iddynt allu cefnogi cydweithwyr mewn adrannau gofal critigol, a gofalu am gleifion â COVID19 nad oes angen gofal critigol arnynt. Mae'r hyfforddiant yn canolbwyntio'n bennaf ar staff fel ymarferwyr yr adran lawdriniaeth, cynorthwywyr anesthetig a nyrsys adfer sydd â phrofiad o gleifion llwybrau anadlu ac y mae eu prif waith wedi gostwng yn dilyn canslo llawdriniaeth ddewisol.
Rydym yn hynod ddiolchgar i'n cydweithwyr yn y brifysgol sydd wedi gweithio'n eithriadol o galed ac yn gyflym iawn i ddatblygu a sicrhau bod yr hyfforddiant hwn ar gael. Hyd yn hyn mae dros 500 o bobl wedi mynychu hyfforddiant gyda 300 arall wedi archebu lle.
Yn ogystal, mae Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Glyndŵr yn darparu hyfforddiant anadlol pwrpasol i ffisiotherapydd (cliciwch yma am adnoddau hyfforddi).
Os hoffech ymgymryd â'r hyfforddiant uchod neu os oes gennych staff yn eich tîm sydd eu hangen arnoch, cysylltwch â Martin Riley Pennaeth Addysg a Chomisiynu ar: Martin.Riley@wales.nhs.uk
Hyfforddiant ar-lein i'r gweithlu gofal iechyd wrth ymateb i COVID19.
Mewn partneriaeth â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, crëwyd pecyn cyflawn o hyfforddiant i gefnogi'r gweithlu gofal iechyd ehangach i ymateb i COVID19.
Ar gael drwy system cofnod staff electronig GIG Cymru, mae'r pecyn yn cynnwys hyfforddiant ar:
• Siart Cofnodi Hylif
• Techneg Aseptig heb Gyffwrdd (ANTT)
• Meddyginiaeth
• Tiwbiau nasogastrig
• Arsylwadau Cleifion
• Rhybudd Cynnar Cenedlaethol
• Gofal Llwybr Anadlu
• Digwyddiadau Tyngedfennol o ran Dadebru
• Gofal Tracheostomi
• Sugnedd
Gellir dod o hyd i ganllawiau ar sut i gael gafael ar y pecyn hyfforddi drwy'r cofnod staff electronig yma.
Cefnogi dychweliad technegwyr fferyllfa
Rydym wedi lansio rhaglen hyfforddi newydd er mwyn galluogi technegwyr fferyllol yng Nghymru i ail-ardystio fel rhai sydd wedi'u Hachredu i fod yn Dechnegwyr Fferyllfa (ACPT) i gefnogi'r gweithlu yn y frwydr yn erbyn COVID-19.
Mae'r rhaglen newydd yn helpu technegwyr fferyllfa sy'n dychwelyd i ymarfer a'r rhai sy'n trosglwyddo eu sgiliau rhwng lleoliadau yn y gweithle, i loywi eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth. Mae hyn yn eu galluogi i gwblhau gwiriadau cywirdeb terfynol o eitemau a ddosberthir o fewn gwasanaethau cleifion yn ogystal â gwirio cyn ac mewn proses o fewn gwasanaethau technegol. Lle y gall technegwyr fferyllfeydd gwblhau'r gwiriadau hyn, gall fferyllwyr wedyn ddefnyddio eu sgiliau a'u gwybodaeth mewn meysydd ymarfer eraill.
Sut y gall AaGIC eich helpu gydag addysg a hyfforddiant.
Gyda'n rôl arweiniol mewn addysg a hyfforddiant mae gennym lawer o brofiad ac arbenigedd mewnol yn creu rhaglenni dysgu a hyfforddi yn ogystal â'u cyflwyno drwy nifer o ddulliau a chynnal ar-lein. Er enghraifft, fel rhan o'r ymgyrch recriwtio, rydym wedi datblygu rhaglen sefydlu a hyfforddiant sylfaenol generig i Gymru gyfan sydd ar gael drwy ystafell ddosbarth rithwir. Os hoffech gael mynediad at ein hadnoddau neu os gallwn eich helpu i gynhyrchu adnoddau dysgu rhithwir, cysylltwch â angie.oliver@wales.nhs.uk
Cofion cynnes
Julie Rogers
Dirprwy Brif Weithredwr/ Cyfarwyddwr y Gweithlu a DG