Neidio i'r prif gynnwy

Clinigwyr yn dysgu adeiladu GIG tosturiol gyda AaGIC

Mae clinigwyr yng Nghymru yn cael cynnig cyfle i ddatblygu eu sgiliau arwain tosturiol.

 

"Mae arweinyddiaeth dosturiol yn ymwneud â gwrando, deall, empathi a helpu.

Mae'n allweddol i sicrhau lles, cymhelliant ac effeithiolrwydd y bobl anhygoel hynny sy'n darparu gofal."

- Michael West, Athro Seicoleg Sefydliadol ym Mhrifysgol Caerhirfryn.

 

Mae AaGIC wedi datblygu rhaglen 10 mis, gan gyfeirnodi'r Egwyddorion Arweinyddiaeth dosturiol ar gyfer Iechyd a Gofal (2021), sy'n datblygu arweinwyr tosturiol a chydweithredol yn y GIG. Bydd hyn yn helpu i gefnogi ein gweithlu ac o fudd i gleifion.

Yn ystod elfen breswyl y garfan gyntaf yn 2022 (ychydig ddyddiau mewn canolfan awyr agored, adeiladu tîm) fe wnaethom ofyn i rai o'r clinigwyr ar y cwrs beth oedden nhw'n feddwl ohono hyd yma. Gwelwch beth oedd ganddyn nhw i'w ddweud yn y fideo isod.

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu carfanau newydd i'r rhaglen arloesol hon yn 2023.

Gallwch ddysgu mwy am y rhaglen yma: https://heiw.nhs.wales/our-work/leadership/advanced-clinical-leadership-programme/