Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Arweinyddiaeth Glinigol Uwch

Rhaglen i ddatblygu arweinyddiaeth ar gyfer clinigwyr sy'n gweithio yn y GIG yng Nghymru yw hon.

Fe'i cynlluniwyd i greu GIG sy'n gyforiog o arweinwyr tosturiol a chydweithredol a fydd yn cyfnerthu ein gweithlu ac o fudd i gleifion.

Cynlluniwyd y rhaglen gan gyfeirio at yr Egwyddorion Arweinyddiaeth Dosturiol ar gyfer Iechyd a Gofal (2021). Mae’n mynnu ymrwymiad o 15 diwrnod dros gyfnod o 10 mis. Mae'r rhan fwyaf o sesiynau’n rhai rhithwir gyda rhai digwyddiadau yn y cnawd yn cael eu cynnal yn ne-ddwyrain Cymru.

 

Yn ystod elfen breswyl carfan 2022 (ychydig ddyddiau mewn canolfan meithrin tîm, awyr agored) bu inni holi rhai clinigwyr ar y cwrs ynglŷn â’u barn amdano hyd yn hyn. Clywch yr hyn oedd ganddynt i'w ddweud yn y fideo isod.