Neidio i'r prif gynnwy

Ceisiadau STP 2024

Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer swyddi Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr (STP) yng Nghymru sydd wedi'u rhestru ar y dudalen we hon.

Defnyddiwch y dolenni isod i wneud cais am eich swydd (au) a ddymunir ar borth recriwtio GIG Cymru, Trac. Sylwer, gall ymgeiswyr wneud cais am uchafswm o ddwy swydd yr un.

Bydd ceisiadau yn cau ar 19 Chwefror 2024.

Nifer y swyddi gwag Swydd wag
4 Awdioleg 
1 Genomeg Canser
8 Gwyddoniaeth Gardiaidd
2 Biocemeg Glinigol 
2 Peirianneg Glinigol 
1 Genomeg
1 Ffiseg Feddygol - Meddygaeth Niwclear
2 Ffiseg Feddygol - Diogelwch ymbelydredd a Radioleg Diagnostig
3 Ffiseg Feddygol - Ffiseg Radiotherapi
1 Ffiseg Feddygol - Ffiseg Radiotherapi (Llwybr 2)
4 Gwyddor Anadlol a Chwsg
1 Gwyddor Fasgwlaidd
3 Gwyddorau Fferyllol
3 Cyfrifiadura Gwyddonol Clinigol
1 Haematoleg a Gwyddor Trallwyso
1 Ffiseg Feddygol - MRI (Llwybr 2)
3 Niwroffisioleg
1 Microbioleg Glinigol

Pam hyfforddi, gweithio a byw yng Nghymru?

Mae Cymru’n wlad fach ond amrywiol, lle mae cymunedau hardd, arfordiroedd digyffwrdd, ardaloedd gwledig trawiadol a dinasoedd bywiog yn cyfuno cyfle i ymlacio a'r holl anturiaethau sydd eu hangen arnoch i ddod o hyd i'r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith rydych wedi bod yn chwilio amdano.  Cliciwch yma i ddarganfod mwy.

 

Gwybodaeth ychwanegol

Bydd rhagor o wybodaeth ddiweddaraf am ffenestr y cais, nifer y swyddi STP yng Nghymru a'r meysydd arbenigol yn cael eu hychwanegu at y dudalen we hon maes o law. Am fwy o wybodaeth am STP yng Nghymru, gan gynnwys gofynion mynediad, cliciwch yma.

Ar gyfer ymholiadau am y broses ymgeisio, ewch i'n tudalen we cwestiynau cyffredin.