Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiadau Gwyddoniaeth Gofal Iechyd

Medi 2024: Ymweliadau mewn swydd

Ydych chi'n gweithio mewn adran: Genomeg, Patholeg, Radiograffeg, Gwyddor Gyfrifiadurol Glinigol, Ymarfer Adran Llawdriniaeth, Ffisioleg Glinigol, Ffiseg Feddygol neu Beiriannau Glinigol/Adsefydlu? Os felly, dewch I cwrdd a ni!

Bydd tîm Gwyddor Gofal Iechyd Cymru o Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn ymweld â byrddau iechyd ar draws y rhanbarth fis Medi yma i cwrdd a chi wyneb yn wyneb!

 

Dewch draw i ddweud eich dweud yn un o’n prosiectau presennol:

• Helpwch i lunio'r llwybrau hyfforddi ac addysg ar gyfer eich proffesiwn

• Rhannwch eich barn a'ch profiadau ar hunaniaeth broffesiynol

• Helpu i ysbrydoli eraill drwy gymryd rhan yn ein hymdrechion hysbysebu gyrfa

...a dewch i ddarganfod beth all AaGIC ei gynnig i chi!

 

Llwybrau Hyfforddiant ac Addysg

Rydym yn y broses o fapio llwybrau gyrfa, ac mae archwilio addasrwydd y ddarpariaeth hyfforddiant ac addysg bresennol yn bwysig i gyflawni hyn. Rydym am glywed gennych am yr hyn sy’n effeithiol, beth sydd ddim yn gweithio a sut y gallwn gydweithio i nodi atebion addysg newydd a fydd yn sicrhau bod gennym seilwaith hyfforddi ac addysg cryf a chynaliadwy ar gyfer unigolion sy’n gweithio yn GIG Cymru.

 

Hunaniaeth Broffesiynol

Rydyn ni yma i wrando arnoch chi ac eisiau casglu eich barn, eich profiadau a'ch arbenigedd ar hunaniaeth broffesiynol. Gobeithiwn gyda’ch cymorth chi y gallwn ddarparu iaith cyfun i’r proffesiwn. Bydd rhannu iaith yn gwella ymdeimlad o hunaniaeth broffesiynol - i ysgogi, denu, gwella cyfraddau cadw a hybu lles a chynyddu ymgysylltiad.

 

Hysbysebu Gyrfa

Er mwyn cynrychioli'ch proffesiwn yn gywir a chreu cynnwys hysbysebu sy'n adlewyrchu hyn, mae angen eich mewnbwn. Mae hysbysebu gyrfaoedd yn hanfodol ar gyfer tynnu sylw at y gwaith anhygoel sy'n cael ei wneud, sicrhau eich bod yn cael y gydnabyddiaeth yr ydych yn ei haeddu, ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i'ch proffesiwn.

 

Beth all AaGIC ei gynnig i chi?

Darganfyddwch yr hyn y gall AaGIC ei gynnig i chi. Archwiliwch yr amrywiaeth o gyfleoedd yn AaGIC, o raglenni hyfforddi i gyrsiau arweinyddiaeth ar ein platfform ar-lein, Gwella. Mae ystod eang o opsiynau yn eich disgwyl, felly ymunwch â ni i ddarganfod beth sydd gennym i'w gynnig!

Byddwn yn dosbarthu nwyddau Gwyddor Gofal Iechyd Cymru yn ystod ein hymweliadau. Mae croeso i chi ddod draw a chasglu'r hyn yr hoffech chi - rydyn ni'n gyffrous i gwrdd â chi yno!


Sut i gymryd rhan, Dweud eich dweud, a mynychu ein digwyddiadau personol fis Medi yma (gweler y tabl isod).

 

Dyddiad

Lleoliad

Dydd Llun 16eg

 

YB: Ysbyty Singleton

YP: Canolfan Ganser Felindre

Dydd Mawrth 17eg

 

YB: BIP CaF a Ysbyty Brenhinol Morgannwg (amser i'w gadarnhau)

 YP: Ysbyy Brenhinol Morgannwg

Dydd Mercher y 18fed

YP: Ysbyty Brenhinol Gwent

Dydd Llun y 23ain

 

YB: Ysbyty Gwynedd

YP: Ysbyty Glan Clwyd