Neidio i'r prif gynnwy

Y Bwrdd Asesiadau Proffesiynol ac Ieithyddol (PLAB)

PLAB rhan 1

Rydyn ni’n cofrestru aelodau o Grŵp Meddygon a Deintyddion sy’n Geiswyr Lloches a Ffoaduriaid yng Nghymru (WARD) ar gwrs PLAB 1, sy’n cael ei gynnal yn Llundain ac yn cynnwys 20 diwrnod o gwrs dysgu a dau ddiwrnod i ffwrdd. Caiff y cwrs ei gynnal rhwng 9am a 7pm gydag awr i ginio.

Bydd yr hyfforddwyr PLAB yn rhoi darlith fer am bwnc bob dydd (ee;- y system nerfol ganolog neu bediatreg) ac wedyn yn ateb yr holl gwestiynau blaenorol a gafwyd am y pwnc hwnnw ar y diwrnod hwnnw. Maen nhw’n ceisio mynd i'r afael â’r holl bynciau gofynnol ar gyfer yr Arholiad PLAB 1.

Ar ddiwedd y cwrs, caiff ffug brofion eu cynnal ac maen nhw’n debyg iawn i arholiad y Cyngor Meddygol Cyffredinol, lle bydd ymgeiswyr yn dysgu am reoli eu hamser, yn ogystal â thechnegau ateb cwestiynau.

Argymhellir yn gryf bod pawb yn gwneud pedwar ffug brawf o leiaf, er mwyn gwella eu siawns o basio’r arholiad y tro cyntaf.

Bydd amserlen nodweddiadol y cwrs fel a ganlyn (mae pob diwrnod wedi’i neilltuo i bwnc penodol):

  1. y system anadlu a nwyon yn y gwaed
  2. y system gardiofasgwlaidd
  3. gastroenteroleg
  4. arenneg a biocemeg
  5. seiciatreg
  6. pediatreg
  7. trawma
  8. orthopedeg
  9. obstetreg
  10. gynaecoleg
  11. llawfeddygaeth gyffredinol
  12. llawfeddygaeth systemig
  13. endocrinoleg
  14. clustiau, trwyn a gwddf (ENT) / offthalmoleg / dermatoleg
  15. rhewmatoleg / epidemioleg / tocsicoleg
  16. y system nerfol ganolog
  17. afiechydon heintus
  18. ffarmacoleg / pynciau amrywiol

PLAB rhan 2

Dylai'r cwrs PLAB 2 gael ei gynnal tua 5-6 wythnos cyn dyddiad arholiad y Cyngor Meddygol Cyffredinol er mwyn rhoi o leiaf 3-4 wythnos i feddygon ymarfer ar ôl y cwrs, oherwydd mae bron i 300 o orsafoedd i’w hymarfer. Mae’r cwrs yn cynnwys 11 diwrnod o addysgu, gan gynnwys y penwythnos, o 9:00 am i 7:00 pm bob dydd. Bydd pob diwrnod wedi’i neilltuo i bwnc penodol:

  1. cyflwyniad a Chynnal Bywyd mewn Achosion Trawma (ATLS)
  2. manikins (rhan 1)
  3. gweddill yr hyfforddiant gyda manikins, gan gynnwys adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) (Rhan 2) a chyfrifo dos
  4. archwiliadau clinigol mewn meddygaeth
  5. archwiliadau clinigol mewn orthopedeg a llawfeddygaeth
  6. hanes a chwnsela mewn meddygaeth
  7. hanes a chwnsela mewn llawfeddygaeth ac orthopedeg
  8. hanes a chwnsela mewn obstetreg a gynaecoleg
  9. hanes a chwnsela mewn pediatreg
  10. hanes a chwnsela mewn seiciatreg
  11. VIVA, presgripsiynau cyffuriau, golchi dwylo, MRSA, sgyrsiau ffôn a phynciau amrywiol eraill

Mae ffug brofion yn cymryd rhwng awr a hanner a dwy awr i'w cwblhau. Bydd adborth ar y ffug brawf gyda'r nos, ar ôl i’r holl grwpiau orffen y ffug brawf.

Bydd dau fath o adborth. Un math o adborth yw “adborth cyffredinol” a'r math arall yw “adborth personol”. Ar gyfer yr adborth cyffredinol, bydd yr holl ymgeiswyr a safodd ffug brofion y diwrnod hwnnw (fel arfer mae tua 25-30 o feddygon yn sefyll y ffug brawf bob dydd) yn ymgynnull gyda’r nos a bydd arholwyr y ffug brawf yn trafod yr holl gamgymeriadau a wnaed gan yr holl ymgeiswyr. Mae’r adborth cyffredinol fel arfer yn cymryd tua thair awr (rhwng 4:30 pm a 7:30 pm fel arfer).

Yn yr adborth cyffredinol, byddwch chi’n dysgu o gamgymeriadau ymgeiswyr eraill. Ar ôl yr adborth cyffredinol, gallwch gwrdd ag arholwr eich ffug brawf, a fydd yn rhoi adborth personol i chi os oes ei angen arnoch.

Cysylltwch â'n Huned Cymorth Proffesiynol drwy HEIW.professionalsupport@wales.nhs.uk am fwy o wybodaeth.