Mae hyfforddiant Llai na Llawn Amser (LTFT) yn gynllun lle gall meddygon dan hyfforddiant cymwys a deintyddion o bob gradd ofyn am weithio yn rhan amser pan fydd gwaith llawnamser yn amhosibl neu'n afresymol yn hytrach na gorfod rhoi'r gorau i weithio.
Ein nod yw sicrhau bod hyfforddiant LTFT ar gael i gynifer o hyfforddeion cymwys â phosibl a chymeradwyo'r egwyddorion a nodir yn nogfen ganllaw Cyflogwr y GIG - Meddygon mewn hyfforddiant hyblyg: egwyddorion sy'n sail i'r trefniadau newydd ar gyfer hyfforddiant hyblyg (PDF, 194Kb).
Gellir dod o hyd i wybodaeth gynhwysfawr am y cynllun hyfforddi LTFT yng Nghymru yn y llawlyfr hyfforddi LTFT (PDF, 549Kb).
Mae gan bob hyfforddai hawl i wneud cais am hyfforddiant LTFT ond, gan ddibynnu ar y galw am y math hwn o hyfforddiant a'r rhesymau drosto, ei argaeledd o ran gallu'r rhaglen a'r adnoddau sydd ar gael, gall fod yn gyfyngedig.
Bydd pob cais am hyfforddiant LTFT yn cael ei drin yn gadarnhaol gan AaGIC, Penaethiaid Ysgolion a Chyfarwyddwyr Rhaglenni Hyfforddiant. Fodd bynnag, rhaid i hyfforddeion fod yn ymwybodol y bydd yn rhaid ystyried goblygiadau’r gwasanaeth o ran y Sefydliad Lletya a'r gallu hyfforddi cyffredinol o fewn y rhaglen hyfforddiant.
Pan fo'r galw am LTFT yn fwy na'r gallu neu'r adnoddau hyfforddi, bydd ceisiadau LTFT yn cael eu blaenoriaethu gan ddefnyddio'r categorïau cymhwysedd cyfredol y cytunwyd arnynt ar gyfer LTFT ledled y DU. Bydd anghenion hyfforddeion yng Nghategori 1 yn cael blaenoriaeth.
Gellir darllen ymhellach am gategorïau LTFT yn Canllaw Aur 8 Adrannau 3.125 a 3.128.