LTFT Cychwyn | Cyfnod Ymgeisio |
---|---|
Chwefror 2024 — Gorffennaf 2024 | 1 Awst — 31 Awst 2023 |
Gofynnir i bob Hyfforddai gyflwyno eu Cais LTFT o fewn y Cyfnod Ymgeisio. Unwaith y bydd y Cyfnod Ymgeisio yn cau, bydd pob cais yn cael ei adolygu gan Gyfarwyddwyr y Rhaglen a'r Byrddau Iechyd/Practisau perthnasol i ganfod a ellir cefnogi'r cais. Gellir gweld dadansoddiad llawn o'r llinell amser disgwyliedig yn y Polisi LTFT.
Gall hyfforddeion sydd â salwch sydyn neu'r angen sydyn i ymgymryd â chyfrifoldeb gofalu neu sy’n dychwelyd at hyfforddiant, gwneud cais y tu allan i’r cyfnod ymgeisio a dylent wneud cais drwy gyflwyno'r ffurflen digidol Amgylchiadau Eithriadol isod. Rydym yn eich cynghori y dylai’r broses gymryd tua 8 wythnos felly cadwch hynny mewn ystyriaeth pan fyddwch yn cyflwyno eich cais.
Gall hyfforddeion sydd wedi derbyn cynnig i raglen hyfforddi yng Nghymru ac sy’n dymuno dilyn hyfforddiant LTFT ar adeg dechrau yn y swydd, wneud cais drwy gyflwyno cais digidol o fewn 10 diwrnod o dderbyn cadarnhad o’u swydd hyfforddi gan AaGIC. Mae hyn wedi’i amlinellu yn eich llythyr croeso. Sylwch, gall gymryd hyd at 8 wythnos i geisiadau gael eu cymeradwyo; cadwch hyn mewn cof wrth gyflwyno cais.
Cais LTFT am Recriwtiaid Newydd
Gall hyfforddai sy’n dymuno cynyddu eu WTE wneud hynny wrth gyflwyno cais tu allan i’r ffenest ymgeisio. Rydym yn eich cynghori y dylai’r broses gymryd tua 8 wythnos felly cadwch hynny mewn ystyriaeth pan fyddwch yn cyflwyno eich cais.