Mae e-adnoddau llyfrgell ar gael ar lefel genedlaethol a lleol.
Yn genedlaethol, mae e-Lyfrgell GIG Cymru ar gael i holl staff a deiliaid contractau GIG Cymru. Mae’r e-Lyfrgell yn rhoi mynediad at dros 2,300 o e-gyfnodolion cyfredol, e-lyfrau, gwybodaeth am feddyginiaethau, llawlyfr ar-lein y Royal Marsden, BMJ Learning, BMJ Best Practice a yn ogystal â chronfeydd data iechyd mawr fel MEDLINE, CINAHL a PsycINFO.
Mae gan y rhan fwyaf o lyfrgelloedd ysbytai hefyd amrywiaeth o adnoddau electronig ee crynodebau o dystiolaeth, e-lyfrau, e-gyfnodolion, a chronfeydd data, sydd ar gael i aelodau eu llyfrgell yn unig oherwydd gofynion trwyddedu gan gyhoeddwyr. Holwch yn eich llyfrgell leol i gael gwybod beth sydd ar gael.