Mae llyfrgelloedd ysbytai GIG Cymru a llyfrgelloedd iechyd Prifysgol Caerdydd yn cydweithio yng Ngwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru sy’n sail i’r gwasanaeth llyfrgell iechyd yn GIG Cymru.
Mae llyfrgelloedd amlddisgyblaeth mewn 24 o safleoedd ysbytai ar draws GIG Cymru sy’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau.
Nod llyfrgellwyr yw darparu gwasanaeth cyfeillgar a chymwynasgar gyda lle yn y llyfrgell ar gyfer astudio a myfyrio preifat, cyfrifiaduron, mynediad i wi-fi, yn ogystal â llungopïwr/sganwyr a pheiriannau argraffu. Mae’r rhan fwyaf o lyfrgelloedd yn gallu cynnig mynediad 24 awr.
Mae aelodaeth yn agored i staff GIG Cymru a myfyrwyr iechyd israddedig ar leoliad clinigol hefyd. Cysylltwch â’ch llyfrgell lleol i gael rhagor o wybodaeth. Gallwch wneud cais am aelodaeth.
Mae pob llyfrgell yn darparu ystod eang o wasanaethau gan gynnwys:
Mae’r holl wasanaethau llyfrgell yn seiliedig ar ymrwymiad i ofal cwsmeriaid rhagorol.
Cysylltwch â’ch llyfrgell lleol i gael rhagor o wybodaeth a sut i ymuno.
Chwiliwch drwy gatalog llyfrgell a rennir NHS Wales LibrarySearch am lyfrau a chyfnodolion, a chasgliadau e-lyfrgell Iechyd GIG Cymru.
Mae Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth GIG Cymru yn postio ar y cyfryngau cymdeithasol canlynol yn rheolaidd.